18.9 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Charity Elusen y GIG yn prynu meinciau gardd ar gyfer canolfannau iechyd

Elusen y GIG yn prynu meinciau gardd ar gyfer canolfannau iechyd

0
565

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu chwe mainc i staff y tu allan i ardaloedd gorffwys yng nghanolfannau iechyd Hwlffordd, Doc Penfro ac Aberdaugleddau, diolch i roddion.

Bydd y meinciau, sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, yn ei gwneud hi’n haws i staff Hywel Dda gael mynediad i fannau allanol wrth gymryd egwyl.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes Joanne Riggs: “Gyda staff yn treulio mwy o amser ar eu cyfrifiaduron yn ystod y pandemig, yn cynnal clinigau rhithwir a chyfarfodydd, bydd cael mannau eistedd ychwanegol y tu allan yn helpu i hyrwyddo eu lles.

“Mae’r mannau gwyrdd, tawel hyn yn annog staff i gael egwyl benodol i ffwrdd o’u desgiau.”

Yn y llun mae rhai o staff Canolfan Iechyd Doc Penfro gyda’u meinciau newydd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.