3.9 C
Llanelli
Saturday, February 14, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Elusen y GIG yn rafflo crys rygbi Cymru wedi ei lofnodi

Elusen y GIG yn rafflo crys rygbi Cymru wedi ei lofnodi

0
405
Scarlets jersey 1a min scaled
Scarlets jersey 1a min scaled

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn rafflo crys rygbi Cymru o Cyfres yr Hydref 2022.

Mae’r crys wedi ei lofnodi gan aelodau o garfan Cymru 2022 gan gynnwys Leigh Halfpenny, George North a Kieran Hardy. Fe’i rhoddwyd yn hael gan y blaenwr Jac Morgan.

Bydd yr arian a godir gan y raffl yn mynd tuag at y Gronfa Ddymuniadau  sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd, a’u teuluoedd, wneud eiliadau hudolus y gellir eu cofio am byth.

Dywedodd Jac: “Roeddwn i wrth fy modd yn rhoi’r crys i Elusennau Iechyd Hywel Dda gan fod y Gronfa Ddymuniadau yn achos mor deilwng. Rwy’n gobeithio y bydd yr arian a godir yn helpu i greu eiliadau hudolus i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd ar draws ardal Hywel Dda.”

Mae pob raffl yn costio £2.50 a gellir eu prynu ar dudalen raffl ar-lein.

Bydd y raffl yn cael ei thynnu’n fyw ar dudalen Facebook  yr elusen am 3pm ar ddydd Gwener 17eg Mawrth, noswyl Sadwrn Gwych y Chwe Gwlad 2023.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Jac am y rhodd o’r crys. Dyma ran o hanes rygbi Cymru ac yn rhywbeth i’w drysori am genedlaethau i ddod.

“Pob lwc i’r rhai sy’n cystadlu – ac i Gymru yn y Chwe Gwlad!”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.