14.5 C
Llanelli
Wednesday, June 10, 2026
Home Charity Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru yn lansio Hwb Bwyd yn PCYDDS Caerfyrddin

Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru yn lansio Hwb Bwyd yn PCYDDS Caerfyrddin

0
519
press release image. min
press release image. min

Wales Community Food Distribution support launch of Food Hub at UWTSD Carmarthen

Mae Dosbarthiad Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD), a arweinir gan PLANED, yn falch iawn o gefnogi lansiad Hwb Bwyd Cymunedol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin.

Wedi’i sefydlu gan y Tîm Ymgysylltu Dinesig a gwirfoddolwyr yn y Brifysgol, hwn fydd y pumed Hwb Bwyd yng ngorllewin Cymru a gefnogir fel rhan o’r prosiect WCFD, a’r cyntaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn prynu bwyd ffres, sydd â gwerth gwych am arian.

Bydd yr hwb bwyd yn PCYDDS Caerfyrddin yn lansio ddydd Mercher 1 Mawrth am 12:00 y tu allan i Fwyty Merlin ac mae gwahoddiad agored i bawb ddod draw ar y diwrnod i gwrdd â’r tîm. Bydd yr Hwb Bwyd Cymunedol yn PCYDDS Caerfyrddin yn cael ei gynnal yn wythnosol wedyn ar ddydd Iau rhwng 12-2pm, ac i ddechrau, bydd yn cynnig llysiau, ffrwythau a salad ffres i’w harchebu.

Dywedodd Laura Cait, Swyddog Datblygu Ymgysylltiad Dinesig: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r fenter hwb bwyd, gan ei fod yn galluogi’r gymuned leol, trigolion a myfyrwyr, i fanteisio ar ffrwythau a llysiau organig gwerth gwych am gost fforddiadwy.”

Ychwanegodd “rydym mor falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â PLANED ar y prosiect hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar fwy o brosiectau fel hyn o bosib yn y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd i bob cymuned o amgylch ein campysau.”

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here