19.1 C
Llanelli
Wednesday, July 8, 2026
Home Gardening Disgyblion yn plannu hadau heddwch o hen goed

Disgyblion yn plannu hadau heddwch o hen goed

0
375
image014 min 1
image014 min 1

Mae arbenigwyr o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ysbrydoli plant ysgol lleol i dyfu hadau o goeden a lwyddodd i oroesi’r bom atomig a ddisgynnodd ar Hiroshima ym 1945.

Mae pump o blant o ysgol Gwaun Cae Gurwen wedi ymweld â’r Ardd Fotaneg i blannu hadau o goeden gingko a oedd yn tyfu ychydig dros 1,000 o fetrau o’r man lle ffrwydrodd y bom.

Cyflwynwyd yr hadau gan bobl Hiroshima i Awel Awen Tawe, cymdeithas gymunedol yn Nyffryn Aman sydd ar hyd o bryd yn adeiladu canolfan gelfyddydau ac addysg ddi-garbon yng Nghwm-gors – Hwb y Gors.

Bydd y coed yn cael eu plannu yn yr ardd yn Hwb y Gors fel arwydd o heddwch ac adnewyddu.

Dywedodd Ayshea Cunniffe-Thomas , yr uwch arddwraig: “Mae’n bleser bob amser gallu trosglwyddo sgiliau allweddol hau a thyfu, yn enwedig gyda phrosiect arbennig.

“Roedd y plant yn gwrando’n astud, a gwnaethant waith gwych yn plannu’r hadau. Ond cawsom amser hefyd i gael hwyl a mynd ar daith o gwmpas yr Ardd,” meddai Ayshea.

Rheolwr y Prosiect yn Hwb y Gors yw Emily Hinshelwood, ac meddai hi: “Cawsom daith ddifyr i’r Ardd Fotaneg. Bu pump o arddwyr ifanc  brwdfrydig yn plannu’r hadau ac yn mwynhau taith o gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr.

“Mae’n addas iawn mai’r genhedlaeth ifanc ddylai fod yn plannu’r hadau, a rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr egin ifanc hyn yn ffynnu.

“Bu’r disgyblion hefyd yn plannu hadau o goeden Cas Gan Fwnci (monkey puzzle) hen iawn  a oedd yn tyfu yn Aberhonddu.”

Meddai Louise Griffiths, y swyddog ymgysylltu yn Hwb y Gors: “Hwn yw dechrau prosiect yr ardd yn Hwb y Gors, a bydd y coed Cas Gan Fwnci yn edrych yn arbennig yn yr ardd. Gwnaeth y disgyblion waith arbennig yn plannu’r hadau, ac maen nhw’n awyddus iawn i ddod nôl i’r Ardd Fotaneg yn y gwanwyn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymestyn ymhellach ein cysylltiadau gydag ysgol Gwaun Cae Gurwen a’r Ardd Fotaneg.”

Mae hadau o’r ‘hen’ goed yn cael eu dosbarthu ar draws y byd gan y prosiect  Green Legacy Hiroshima sydd â’i ganolfan yn y ddinas yn Siapan. Daw’r hadau roedd y disgyblion yn eu plannu o goeden Ginkgo biloba a oedd y tyfu wrth ymyl Teml Hosenbo, prin 1,120m o safle’r ffrwydriad.

Mae’r Ardd Fotaneg hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Green Legacy Hiroshima, ac mae’n plannu hadau ei hun i gefnogi neges y prosiect o heddwch a’i threftadaeth werdd. 

  • Mae rhagor o wybodaeth am Awel Aman Tawe yng Nghwmllynfell ger Abertawe i’w chael yma: https://egni.coop/

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.