21 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home hywel dda health board Newidiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Newidiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
407
Hywel Dda HB Logo e1680791692475
Hywel Dda HB Logo e1680791692475

Prifysgol Hywel Dda

Yn ystod cyfarfod y bwrdd cyhoeddus ar 30 Mawrth, cyhoeddwyd dau newid i aelodaeth y Bwrdd.

Gadawodd Paul Newman, Aelod Annibynnol o’r Bwrdd, ar ddiwedd mis Mawrth 2023, wrth i’w gyfnod fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) dod i ben.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Gyda chalon drom y gwelwn ymadawiad Mr Paul Newman fel Aelod Annibynnol o’r Bwrdd ddiwedd mis Mawrth wrth i’w gyfnod ar y Bwrdd ddod i ben. Mae Paul wedi bod yn Aelod Annibynnol ers 2017, ac mae’n ffynnon o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i’r Bwrdd.

“Fel Cadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, mae wedi diwygio sut mae’r Pwyllgor yn gweithredu ac wedi cryfhau a gwella yn sylweddol y sicrwydd y mae’r Bwrdd yn ei gael ar ei fframwaith rheoli mewnol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Paul am ei wasanaeth, ei gwnsler doeth a’i ymroddiad yn ei rôl fel aelod o’r Bwrdd, aelod Pwyllgor ac i GIG Cymru, a dymuno’n dda iddo yn y  dyfodol.

Yn ystod y cyfarfod, rhannodd Miss Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei bwriad i ymddeol ar ddiwedd ei chyfnod fel cadeirydd yn nes ymlaen eleni: “Gan i ni dymuno’n dda i Paul, teimlaf hefyd ei bod hi’n amserol i rannu y bydd fy nghyfnod fel Cadeirydd yn dod i ben ym mis Awst eleni. Er mwyn sicrhau parhad y rôl wrth i mi gamu i ymddeoliad, rwyf, wrth drafod gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,  Eluned Morgan AS, wedi cytuno y byddaf yn aros yn y swydd fel Cadeirydd tan ddiwedd mis Hydref 2023 tra byddwn ni’n recriwtio i’r swydd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, a gweithio ochr yn ochr â’n staff ymroddedig ac Aelodau’r Bwrdd sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd i sicrhau iechyd a gofal ein cleifion a’n poblogaeth a chyflwyno ein strategaeth uchelgeisiol. Mae’n siŵr yn y misoedd nesaf y bydd digon o gyfle i gwrdd a diolch i unigolion sydd wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

“Rwy’n annog unigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi uchelgeisiau ein Bwrdd Iechyd yn y dyfodol i wneud cais am swydd Cadeirydd neu Aelod Annibynnol (Cyfreithiol). Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r rhai a benodwyd i sicrhau trosglwyddiad llyfn mewn arweinyddiaeth, a diolch i’m cydweithwyr am eich cefnogaeth barhaus yn y cyfamser.”

Mae penodi Aelodau Annibynnol y Bwrdd i fyrddau iechyd yn benodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Anogir unigolion sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais am rôl Cadeirydd neu Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i ymgeisio yn: Penodiadau Cyhoeddus – (tal.net)

Nodyn i Olygyddion:

Gellir canfod proffiliau hysbysebion a rôl ar gyfer y ddwy rôl ar Borth Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru:

Cadeirydd:

Chair of Hywel Dda University Health Board – Welsh Government (tal.net)

Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – (tal.net)

Aelod Annibynnol: 

Independent Member (Legal) Hywel Dda University Health Board – Welsh Government (tal.net)

Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – (tal.net)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.