3.2 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026

Pride Abertawe 2023

0
441
20230429 115723 min scaled
20230429 115723 min scaled

Gwnaeth GTACGC fynychu Pride Abertawe ddydd Sadwrn, Ebrill 29ain, ac am ddiwrnod arbennig!

Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan, yn dod at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth a dangos cymaint o gefnogaeth i’r gymuned LHDT+.

Roedd yna amrywiaeth eang o adloniant ymlaen yn ystod y dydd, o’r orymdaith Pride, cerddorion, breninesau drag a llawer mwy.  Roedd y diwrnod yn llawn lliw, hwyl a chwerthin ac roedd yr awyrgylch yn un arbennig o’r dechrau i’r diwedd.

Bu’n fraint i GTACGC fod yn rhan o’r diwrnod, gan ddarparu llawer o wybodaeth diogelwch i’r torfeydd, a chawsom gyfle i arddangos ein hinjan tân lliwgar yn ogystal â Sbarc, masgot y Gwasanaeth yn dod allan i chwarae hefyd!

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Craig Flannery: “Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran er mwyn gwneud y diwrnod yn llwyddiant.  Bu’n profiad arbennig i gwrdd â phobl o bob cefndir a chroesawu’r gymuned LDHT+.”

Fel gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i adnabod, deall a chael gwared â phob rhwystr sy’n atal mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a chyflogaeth.  Rydym yn cefnogi aelodau o’n cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i oresgyn anfantais, trwy hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.

Edrychwn ymlaen at ddathlu Pride Abertawe yn 2024.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.