17.6 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Newyddion Lle Dau ymgynghoriad cynllunio Sir Benfro yn cau cyn bo hir

Dau ymgynghoriad cynllunio Sir Benfro yn cau cyn bo hir

0
397
Area around Porth Coch Mawr and Porth y Ffynnon W of Porthclais Sir Benfro   Pembrokeshire Wales 09 min 1 scaled
Area around Porth Coch Mawr and Porth y Ffynnon W of Porthclais Sir Benfro Pembrokeshire Wales 09 min 1 scaled

Mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu ar gyfer rhoi eich adborth ar amrywiaeth o ganllawiau cynllunio atodol newydd ac wedi’u diweddaru sy’n cael eu cynnig ar gyfer Sir Benfro.

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn nodi gwybodaeth fanylach am y ffordd y bydd polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cael eu rhoi ar waith mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol.

Dim ond i geisiadau a wneir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro y mae dogfennau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed a Choetiroedd yn berthnasol.

Mae’r ddogfen ar y cyd ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol ar Forluniau yn cwmpasu Sir Benfro gyfan.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer pob dogfen yn parhau tan 4.30pm ddydd Gwener 26 Mai 2023.

Dylid anfon sylwadau naill ai’n ysgrifenedig at: Tîm Cyfeiriad y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY, neu drwy anfon e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dogfennau, cysylltwch â Thîm Cyfeiriad y Parc drwy anfon e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800 a gofyn am rywun sy’n delio â’r Cynllun Datblygu Lleol.

Bydd yr holl sylwadau’n cael eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi. Bydd yr holl sylwadau’n cael eu hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chabinet Cyngor Sir Penfro lle bo’r canllawiau a gynigir yn cael eu paratoi ar y cyd gan y ddau awdurdod. Bydd pob sylwebydd yn cael gwybod beth fydd canlyniad y cyfarfodydd hyn.

I gael y manylion llawn ac i lawrlwytho’r ffurflen sylwadau, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/canllawiau-cynllunio-atodol-ar-gyfer-ymgynghori/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.