13.8 C
Llanelli
Thursday, March 19, 2026
Home hywel dda health board BIP Hywel Dda yn cyhoeddi sesiynau galw-heibio ar gyfer brechlyn COVID-19

BIP Hywel Dda yn cyhoeddi sesiynau galw-heibio ar gyfer brechlyn COVID-19

1
430
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0164 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0164 scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal sesiynau galw-heibio y gwanwyn hwn ar gyfer brechlyn atgyfnerthu COVID-19, a hynny ar gyfer plant dros 12 oed ac oedolion sy’n gymwys.

Mae pobl 75 oed a throsodd, preswylwyr cartrefi gofal i bobl hŷn a phlant 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu y gwanwyn hwn.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, “Mae COVID-19 yn parhau i fod yn fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol.

“Mae’n bwysig cael eich pigiad atgyfnerthu oherwydd, fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau gostwng dros amser. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i’ch amddiffyn am fwy o amser a bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.

“Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sy’n gymwys ac sydd am fanteisio ar y cynnig o ddos atgyfnerthu, wneud hynny o hyd.”

Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd os ydych yn dymuno mynychu sesiwn galw heibio, dim ond dod i un o’r canolfannau a restrir isod yn ystod oriau agor.

Os na allwch ddod i sesiwn galw heibio a’ch bod yn dal yn dymuno cael eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn, ffoniwch Hyb Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.

Oriau agor sesiynau galw-heibio am frechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn hwn:

Neyland, Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, Neyland, Sir Benfro, SA73 1SE – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm

Dydd Mercher 28 tan ddydd Gwener 30 Mehefin
Dydd Llun 3 tan ddydd Gwener 7 Gorffennaf
Dydd Llun 10 Gorffennaf
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf
Dydd Gwener 14 Gorffennaf
Llanelli, Uned 2a, Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm

Dydd Mawrth 27 Mehefin
Dydd Mercher 28 Mehefin
Dydd Llun 3 tan ddydd Gwener 7 Gorffennaf
Dydd Llun 10 Gorffennaf
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf
Cwm Cou, Ysgol Trewen, Cwm-Cou, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE – galw-heibio rhwng 9.20am a 5.20pm

Dydd Mawrth 27 tan ddydd Gwener 30 Mehefin
Dydd Llun 3 tan ddydd Gwener 7 Gorffennaf
Dydd Llun 10 Gorffennaf
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf
Dydd Gwener 14 Gorffennaf
Caerfyrddin, Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin, Parc Cambrian, Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Caerfyrddin SA31 3QY – galw-heibio rhwng 9.45am a 5pm

Dydd Iau 29 Mehefin
Dydd Gwener 30 Mehefin


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.