13 C
Llanelli
Friday, July 31, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn yn galw am ‘Oedi ac...

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn yn galw am ‘Oedi ac Adolygu’

0
551
Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn
Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn yn galw am ‘Oedi ac Adolygu’ i gynlluniau’r Swyddfa Gartref i letya ceiswyr lloches mewn Gwesty yn Llanelli wrth i densiynau godi yn lleol

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi ysgrifennu ail lythyr heddiw (13 Gorffennaf 2023), at yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braveman AS, yn galw am ‘oedi ac adolygu’ i gynlluniau’r Swyddfa Gartref i letya ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.

Daw galwad y Comisiynydd yn dilyn tensiynau difrifol a chynyddol yn yr ardal sy’n achosi pryderon diogelwch i drigolion lleol a a chontractwyr ar y safle. Mae yna hefyd anghydfodau cyfreithiol yn digwydd dros berchnogaeth tir o amgylch ffiniau tiroedd y gwesty, sy’n ychwanegu at gymhlethdod y sefyllfa ac yn cynyddu’r pwysau ar swyddogion yr Heddlu.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Mae angen dybryd i’r Swyddfa Gartref oedi ac adolygu’r broses o wasgaru ceiswyr lloches i Westy Parc y Strade, Llanelli, er mwyn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac i fynd i’r afael â’r tensiynau difrifol a chynyddol posibl.

“Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod camau cyfreithiol a ‘gwaharddeb’ wedi’u cyflwyno mewn perthynas â mynedfa anghyfreithiol honedig, sydd wedi’i chreu ar ochr tir y Gwesty. Mae anghydweld amlwg a chwestiynau dros hawl cyfreithiol  contractwyr preifat a gyflogir gan y Swyddfa Gartref i gael mynediad i’r safle; mae hyn wedi cynyddu tensiynau cymunedol ac wedi arwain at bresenoldeb sylweddol iawn gan yr Heddlu yn y lleoliad ers dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.

“Mae’r ardal wedi cael ei phlismona’n barhaol ers dydd Sul 9 Gorffennaf ac mae nifer o bobl wedi’u harestio. Bu’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys dynnu ar adnoddau o bob rhan o ardal yr Heddlu i reoli’r sefyllfa hynod anodd hon. Nid yw hyn yn gynaliadwy, ac maent yn asesu galluoedd staffio a lles swyddogion yn barhaus, a fydd yn debygol o arwain at dynnu swyddogion o’r lleoliad yn fuan.

“Mae’n dod yn sefyllfa gynyddol anodd i’w llywio a’i rheoli o safbwynt Plismona”.

Yn ei lythyr at y Swyddfa Gartref, mae’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn hefyd yn nodi bod y Swyddfa Gartref yn mynd yn groes i strategaeth Llywodraeth Cymru i letya ceiswyr lloches, sef I gartrefu pobl mewn model gwasgaredig.

Yn ei lythyr at y Swyddfa Gartref, mae CHTh Dafydd Llywelyn yn nodi; “Rwy’n ail bwysleisio yr hyn a nodais yn fy llythyr blaenorol, fy nghefnogaeth i strategaeth Llywodraeth Cymru, sef cartrefu pobl mewn model gwasgaredig. Mae hyn yn gynaliadwy wrth gynnig ateb tymor hir i geiswyr lloches yn ardal Dyfed-Powys. Mae’n fodel y mae pobl Cymru yn ei gefnogi, wedi’i gofleidio ac wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ailsefydlu ceiswyr lloches Syria, Afghanistan, Wcrain a chyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r penderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref yn gwrthdaro’n uniongyrchol â hyn. Nid yw’r model o letya niferoedd mawr o geiswyr lloches mewn un safle dwys yn ffordd briodol o letya pobl sy’n ceisio lloches.

“Mae’n siomedig gweld unwaith eto diffyg ymgysylltu lleol neu unrhyw fath o ymgynghori gan y Swyddfa Gartref gyda darparwyr gwasanaethau lleol i ddeall effaith lleoli dros 200 o geiswyr lloches ar y safle, sydd wedi arwain at roi pwysau diangen ar adnoddau lleol a darparwyr gwasanaethau.”

“Byddwn yn ailadrodd ymhellach bwysigrwydd cyfathrebu rhagweithiol gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â’r mater hwn, gyda darparwyr gwasanaethau lleol a chyda’r cyhoedd“.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.