18.9 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Triawd codi arian yn codi swm gwych o £27,500 ar gyfer yr...

Triawd codi arian yn codi swm gwych o £27,500 ar gyfer yr uned cemotherapi yn Llwynhelyg

0
42
Curo Cancer min
Curo Cancer min

Mae’r brodyr Llŷr a Guto Edwards a’u cefnder Marc Phillips o Grymych yn Sir Benfro wedi codi’r swm anhygoel o £27,500 ar gyfer Uned Ddydd Haemotoleg ac Oncoleg Penfro (PHODU) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

Cwblhaodd Guto a Marc her pellter ‘Ironman’ dros dridiau yn ystod gŵyl banc y Pasg i godi arian. Roedd y digwyddiad, a elwir yn Her Curo Cancr, yn cynnwys nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a marathon 26.2 milltir.

Trefnodd y tri hefyd gyngerdd gydag arwerthiant a raffl yng nghlwb rygbi Crymych ar y dydd Sul ar ôl yr her.

Dywedodd Guto: “Ym mis Ebrill 2022, cafodd Llŷr ddiagnosis o lymffoma Hodgkin – canser y nodau lymff. Ers hynny, mae wedi derbyn gofal a thriniaeth wych yn Ysbyty Llwynhelyg a Singleton, Abertawe, gan gael cemotherapi a radiotherapi.

“Fel teulu fe benderfynon ni godi arian ar gyfer yr uned ddydd haematoleg a chemotherapi yn Llwynhelyg.”

Dywedodd Llŷr: “Rydym mor ddiolchgar i bawb a gyfrannodd, mae’r cyfanswm a godwyd wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Gobeithiwn y bydd yr arian yn helpu’r uned i barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn union fel y cefais yr adeg hon y llynedd.

“Rydym yn diolch i bawb o waelod ein calonnau: y bobl a gyfrannodd eitemau i helpu Guto a Marc i gwblhau’r her, a hefyd y rhai a helpodd gyda’r cyngerdd. Mae’r rhestr yn rhy hir i ddiolch i bawb, ond heb eich cymorth chi, ni fyddai’r her hon wedi bod mor llwyddiannus.

“Diolch oddi wrthyf, Guto, Marc a’n teuluoedd.”

Dywedodd Jenny James, Uwch Brif Nyrs: “Gan holl staff yr uned, diolch yn fawr iawn i Llŷr, Guto a Marc am godi swm aruthrol o arian i’r uned. Diolch am eich holl amser, trefniadaeth, ac ymdrechion wrth gynllunio’r her a’r digwyddiadau. Llongyfarchiadau mawr i Guto a Marc am gwblhau’r her hefyd.

“Bydd yr offer newydd y byddwn yn gallu ei brynu gyda’r arian yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff  GIG lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.