8.1 C
Llanelli
Saturday, October 17, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Nyrsys ICU yn ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar...

Nyrsys ICU yn ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Glangwili

0
371
image002 min 3
image002 min 3

Mae staff o’r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer gardd yr ICU.

Mae Uwch Reolwyr Nyrsio Abbi Daniel-Thomas, a Nerys Davies, Ffisiotherapydd Cymunedol Catrin Ladbrook a staff eraill o’r ICU yn Ysbyty Glangwili i gyd yn rhedeg yr hanner marathon ar 1 Hydref 2023.    

Bydd yr ardd yn cefnogi cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ICU gyda’u taith adsefydlu a lles i adferiad. Bydd yn rhoi hwb therapiwtig i gleifion, gan roi ymdeimlad o normalrwydd iddynt a’u hanwyliaid.

Mae’r ardd yn caniatáu amser i ffwrdd o’r ardal glinigol, gan ddarparu gofod heddychlon i gwrdd â theulu a ffrindiau a hefyd cyfle i weld eu hanifeiliaid anwes cariadus. Bydd yr ardd hefyd yn lle heddychlon i staff fyfyrio ar ymarfer a bydd yn cefnogi eu lles. 

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall ymweliad awyr agored wella iechyd seicolegol a chefnogi lles corfforol yn ystod cyfnod a all fod yn straen ac yn anodd iawn.

Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rwyf i, Abbi, Catrin a chydweithwyr o ICU yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd eleni i herio ein hunain a chodi arian ar gyfer prosiect arbennig. 

“Rydym am i’r arian fynd tuag at gyflawni ein breuddwyd o adeiladu gardd ICU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu ei mwynhau. Dyma’r tro cyntaf i rai ohonom gymryd rhan mewn hanner marathon, felly mae’n mynd i fod yn anodd, ond rydym yn edrych ymlaen at wthio ein hunain. Bydd unrhyw roddion yn cael eu derbyn yn ddiolchgar. Diolch!” 

Gallwch gyfrannu at y codwr arian yma: https://www.justgiving.com/fundraising/Nerys-Davies8

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.