12.9 C
Llanelli
Sunday, October 18, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Pob un o dri pharc gwledig Cyngor Sir Gâr yn ennill statws...

Pob un o dri pharc gwledig Cyngor Sir Gâr yn ennill statws y Faner Werdd

0
488
Y Faner Werdd Mynydd Mawr Green Flag
Y Faner Werdd Mynydd Mawr Green Flag

Gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain ac, am y tro cyntaf, Parc Coetir y Mynydd Mawr i gyd wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd am 2023/24.

Mae’r wobr hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn nod ansawdd i barciau a mannau gwyrdd sydd ar gael i’r cyhoedd o amgylch y byd.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrau yn cael ei redeg gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r parciau hyn ar agor i’r cyhoedd brofi harddwch naturiol y sir, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymwelwyr ymgolli ym myd natur drwy ystod eang o weithgareddau hamdden.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’n tîm ymroddedig, ein gwirfoddolwyr brwd a’n hymwelwyr sy’n ei gwneud yn bosibl i ni ennill y gwobrau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill Gwobr y Faner Werdd am dri o’n mannau gwyrdd hardd.”

“Yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn ffodus i gael y mannau hyn ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y gwobrau hyn.”

I gael gwybodaeth am bethau i’w gwneud ym Mharc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Parc Coetir y Mynydd Mawr a lleoliadau poblogaidd eraill ar draws Sir Gaerfyrddin, ewch i Pethau i’w gwneud – Traeth a Pharc Gwledig Pen-bre.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.