Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg

0
309

 

Mae TUC Cymru wedi trefnu trafodaeth yn yr Eisteddfod ar y pwncCydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg’.

Amser a dyddiadDydd Iau, 10 Awst, 3.30pm, Pabell y Cymdeithasau 2 

Bydd trafodaeth TUC Cymru yn y Brifwyl eleni yn canolbwyntio ar sut y gall undebau a chyflogwyr yng Nghymru gydweithio gydag eraill i hyrwyddo hawliau’r Gymraeg yn y gweithle. 

Mae Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i anelu tuag at greu Cymru mwy cyfartal, teg a chyfiawn, gyda gwaith teg yn rhan annatod ohoni. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan sylfaenol o waith teg a chydraddoldeb yn y gweithle. 

Bydd aelodau’r panel yn trafod cydraddoldeb yng nghyd-destun gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau CymraegByddant yn mynegi barn ar beth ddylai’r prif flaenoriaethau fod o fewn y byd undebol, gweithleoedd a mudiadau i symud yr agenda Cymraeg yn y gweithle yn ei flaen 

Y siaradwyr fydd: 

  • Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru a Rheolydd Sgiliau a Datblygiad i Prospect (sector Bectu) 
  • Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith 
  • Dr Dyfrig Jones Llywydd UCU Cymru ym Mhrifysgol Bangor, Aelod o Bwyllgor Gwaith UCU Prydain ac Uwch Ddarlithydd Ffilm, Prifysgol Bangor 
  • Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg 
  • Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC 

Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cysylltiadau Dwyieithog, TUC Cymru:

Rydym yn ymfalchïo bod TUC Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth y ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisynydd yr Iaith yn 2022 sy’n arwydd o’n hymrwymiad ni i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle 

Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddatblygiadau parhaus o safbwynt y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yr un mor frwdfrydig i gefnogi ein 48 undeb cysylltiol gyda’u datblygiadau Cymraeg wrth ehangu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y symudiad undebol yng Nghymru.

Yn ogystal, rydym am weld y defnydd o’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio mewn gweithleoedd ar draws Cymru.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here