22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Elusen yn ariannu sesiynau addysgol i blant a phobl ifanc â diabetes

Elusen yn ariannu sesiynau addysgol i blant a phobl ifanc â diabetes

0
425
HDHC Landscape Logo CMYK min
HDHC Landscape Logo CMYK min

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu sesiynau a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc â diabetes.

Mae’r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig yn trefnu sesiynau ar gyfer plant a phobl ifanc â diabetes a fyddai’n trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

 Mae’r sesiynau’n cwmpasu nifer o bynciau i helpu plant a phobl ifanc i reoli eu diabetes yn barod ar gyfer symud i’r ysgol uwchradd. Mae’r sesiynau’n cynnwys cyfrif carbohydradau, rheoli diabetes o ddydd i ddydd yn ystod y diwrnod ysgol, monitro lefelau glwcos, rheoli lefelau glwcos uchel ac isel, rheolau diwrnodau salwch, a bod yn egnïol.

 Roedd y gwasanaeth hefyd wedi trefnu sesiwn addysg weithredol SEREN yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig, lle bu i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn sesiwn dysgu rhyngweithiol hwyliog ar sut i reoli eu diabetes wrth wneud ymarfer corff. Anogwyd y plant a’r bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod y sesiwn, a roddodd gyfle iddynt weld sut y mae ymarfer corff yn effeithio ar eu diabetes a sut i reoli eu lefelau glwcos yn ddiogel.

 Mae’r elusen hefyd wedi cefnogi sesiynau eraill, gan gynnwys sesiwn farchogaeth yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol yn Aberystwyth, bowlio yn Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin, a sesiwn padlfyrddio a gafodd ei redeg gan Outer Reef yn Saundersfoot.

 Roedd yr holl sesiynau yn annog rheolaeth ddiogel ar ddiabetes ac yn fuddiol i’w llesiant emosiynol a seicolegol trwy annog cymorth gan gyfoedion.

 Dywedodd Sian Southgate, Nyrs Diabetes Pediatreg: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi galluogi’r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig i drefnu’r sesiynau addysgol a’r prynhawniau gweithgareddau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.

 “Mae bod mewn grŵp yn rhoi cyfle i’r plant a’r bobl ifanc gwrdd â phlant a phobl ifanc eraill â diabetes y tu allan i leoliadau clinigol. Mae’n helpu i hyrwyddo a chynnal iechyd da yn eu bywydau.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a’r modd y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.