12.8 C
Llanelli
Saturday, October 10, 2026
Home Newyddion Lle Y newyddion diweddaraf am Brosiect TB Buchol Sir Benfro

Y newyddion diweddaraf am Brosiect TB Buchol Sir Benfro

0
33
Welsh Government logo.svg
Welsh Government logo.svg

Mae’r prosiect TB buchol yn Sir Benfro, i edrych sut y gellir mynd i’r afael â’r clefyd mewn dull partneriaeth wedi dechrau, yn dilyn dyfarnu’r contract ar gyfer ei gyflawni, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae Prosiect Sir Benfro yn rhan o’r Cynllun Cyflawni TB buchol pum mlynedd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Bydd yn mynd i’r afael â lefelau dwfn yr haint mewn rhannau o Sir Benfro, lle mae nifer yr achosion o TB wedi gwaethygu yn erbyn y sefyllfa genedlaethol sy’n gwella’n gyffredinol.

Nod y prosiect yw hwyluso cydweithio rhwng milfeddygon a ffermwyr ac mae’n grymuso penderfyniadau gwybodus lleol ac arweinyddiaeth wrth reoli clefydau.

Mae’r broses dendro wedi’i chwblhau ac mae’r contract wedi’i ddyfarnu i grŵp prosiect dan arweiniad Iechyd Da (Gwledig) Ltd. Mae gwaith bellach ar y gweill i gyflwyno’r prosiect gyda rhagor o fanylion i ddilyn.

Cyn Sioe Sir Benfro yr wythnos hon dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths: “Rydym yn ymwybodol iawn o her TB mewn gwartheg, a’r gofid y mae’n ei achosi i ffermwyr. Dyna pam rydym yn benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru fel y nodir yn ein Cynllun Cyflawni, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

“Rydym wedi gwneud cynnydd cyson ers 2009, gyda llai o fuchesi wedi’u heffeithio a llai o achosion newydd, ond gwyddom fod lefelau heriol o’r haint wedi bod yn Sir Benfro.

“Rwyf wedi dweud erioed na allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, ac mae gweithio mewn partneriaeth â’n ffermwyr a’n milfeddygon yn hanfodol i gyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB. Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r Prosiect ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael effaith gadarnhaol yma ac y gellir dysgu gwersi i weddill Cymru.”

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Dr Richard Irvine: “Bydd y Prosiect yn gweithio gyda sampl fechan o ffermydd yn Sir Benfro, gyda’r diben o rymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad wrth reoli clefydau.

“Bydd yn datblygu ac yn gweithredu dulliau ychwanegol o reoli TB buchol, yn ychwanegol i’r mesurau statudol a ddefnyddir yn yr ardal ar hyn o bryd.

“Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nodi risg clefydau gweddilliol wrth brofi gwartheg i fod yn glir a datblygu llwybr i leihau trosglwyddiad yr haint o wartheg i wartheg. Bydd hyn yn cynnwys adnabod a rheoli anifeiliaid risg uchel a goruchwylio arferion bioddiogelwch wrth ladd a milfeddygon.

“Rwy’n falch o weld y prosiect newydd hwn sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant bellach ar y gweill, sy’n enghraifft gyffrous o weithio mewn partneriaeth.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.