12.9 C
Llanelli
Tuesday, May 26, 2026
Home Education Cafodd Canolfan Brifysgol Coleg Cambria adroddiad disglair gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd...

Cafodd Canolfan Brifysgol Coleg Cambria adroddiad disglair gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA).

0
357
EmmaHurst scaled
EmmaHurst scaled

Roedd yr adroddiad QAA yn mynegi hyder bod ‘safonau academaidd yn ddibynadwy, yn cyrraedd gofynion y DU, ac yn gymharol debyg i safonau sy’n cael eu gosod a’u cyflawni gan ddarparwyr eraill yn y DU’.

Hefyd fe wnaeth y tîm adolygu – a aeth i ymweld â’r coleg ddwywaith, gan gynnwys ym mis Mai y llyneddfynegi hyder bod ‘ansawdd profiad academaidd myfyrwyr yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol’.

Mae’r canlyniadau’n rhoi barn arbenigol i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am barodrwydd y darparwr i ymuno â’r sector AU, neu barhau i weithredu ynddo.

Dim ond un maes wnaeth y tîm adolygu nodi bod angen ei wella: Parhau i ddatblygu ei brosesau sicrhau ansawdd mewnol fel y gall adolygiadau rheolaidd o’i arferion safonau ac ansawdd ysgogi gwelliannau a rhagor o ddatblygiadau.

University Centre

Ni chafodd unrhyw feysydd penodol i’w gwella, eu nodi.

Dywedodd Deon Addysg Uwch Coleg Cambria, Emma Hurst: ‘Rydyn ni’n falch bod y QAA wedi cydnabod a mynegi hyder yn safonau’r ddarpariaeth AU a’r profiad academaidd yng Nghanolfan Brifysgol Cambria a diolch i’r adolygwyr am eu harweiniad, eu cefnogaeth a’u hadborth drwy gydol y broses.

Mae’n galonogol nad oedd y QAA wedi dod o hyd i unrhyw feysydd sydd angen eu gwella’n benodol ond bydd y coleg yn parhau i weithio’n galed i godi safonau ar gyfer ein dysgwyr ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y perthnasoedd sydd gennym ni gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid yn y sector.’

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Ganolfan Brifysgol Coleg Cambria.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here