4.3 C
Llanelli
Friday, February 13, 2026
Home News History News Mae Arteffact sydd ag arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol i’r Gogledd Ddwyrain wedi...

Mae Arteffact sydd ag arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol i’r Gogledd Ddwyrain wedi dychwelyd i’w gartref gwreiddiol.

0
2874
WW1Cambria2 min scaled
WW1Cambria2 min scaled

Mae copi o Restr Anrhydedd Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych o’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Mawr (Y Rhyfel Byd Cyntaf) wedi cymryd ei lle yn llyfrgell Coleg Cambria Iâl.

Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf Ysbyty Cynorthwyol Roseneath oedd ar y safle cyn iddo gael ei droi’n ysbyty ar gyfer milwyr wedi’u hanafu ac yn hwyrach ymlaen yr Ysbyty Coffalle’r oedd yr eitem yn cael ei gadw i ddechrau – o 1926 hyd y nawdegau cynnar pan ddaeth yn Goleg Iâl.

Yna cafodd y rhestr anrhydedd ei symud i Amgueddfa’r Cyngor, lle y bydd yn aros oherwydd ei chyflwr bregus.

Fodd bynnag, gyda chymorth yr amgueddfa, mae gan y coleg gopi corfforol o’r ddogfen ac mae cynlluniau i’w digideiddio yn y dyfodol.

Mae Simon Mapp, Ymgynghorydd Sgiliau Academaidd yn Iâl, yn falch eu bod nhw wedi medru dychwelyd y rhestr anrhydedd i’wgwir gartref”.

Roedd y rhestr wreiddiol yn cael ei chadw yn yr ysbyty, sydd erbyn hyn yn floc cerdd y coleg, felly mae’n bwysig iawn i’r ardal leol,” meddai.

WW1 cambria

Roedd y llyfrgell yn teimlo, oherwydd bod Sul y Cofio ar y gorwel, ei bod hi’n amser addas i sicrhau bod y llyfr sy’n cofnodi’r holl ddynion ifanc sydd wedi aberthu eu bywydau yn y rhyfel yn 1914-18 yn dychwelyd i’r coleg, roedd rhai o’r dynion ifanc yn ddisgyblion yn Ysgol Parc y Gelli, sydd erbyn hyn yn rhan o safle Iâl.

“Mi fydd ar gael i’w gweld yn y llyfrgell ar gyfer myfyrwyr a staff, felly hoffwn ni ddiolch i Amgueddfa’r Sir, yn enwedig Mark Taylor Cymhorthydd Archif yr amgueddfa, am eu help gyda’r prosiect yma.”

Ychwanegodd Caplan Cambria Tim Feak: Mae’r timau llyfrgell ar bob un o’n safleoedd yn gwneud gwaith gwych i godi ymwybyddiaeth ar draws ein cymunedau coleg am faterion a digwyddiadau pwysig iawn.

“Gan gynnwys Sul y Cofio sydd yn andros o bwysig, felly mae cael y rhestr yn Iâl a chael y cyfle i weld enwau’r bobl sydd wedi aberthu eu bywydau ar gyfer ein rhyddid yn ychwanegu haen o ddyfnder a dwyster at ein adyfyrdodau eleni.

Diolch o waelod calon i Simon am hwyluso hyn, mae’n rhodd werthfawr i’n cymuned.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.