10.1 C
Llanelli
Monday, November 9, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Cyflenwadau gardd a ariennir gan elusennau yn hyrwyddo therapi garddwriaeth

Cyflenwadau gardd a ariennir gan elusennau yn hyrwyddo therapi garddwriaeth

0
358
Garden supplies for horticultural therapy 4
Garden supplies for horticultural therapy 4

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu cyflenwadau gardd ar gyfer y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghanolfan Adnoddau Cae’r Ffynnon yng Nghaerfyrddin.

Garden supplies for horticultural therapy

Bydd y cyflenwadau gardd yn helpu i ddatblygu’r ardal awyr agored yn y ganolfan ymhellach a chreu gofod ar gyfer adsefydlu galwedigaethol, meithrin sgiliau ymarferol a therapi garddwriaethol.

 Gall cleientiaid ddefnyddio’r gerddi i wella eu hiechyd meddwl, yn ogystal â’u hiechyd corfforol, cyfathrebu a sgiliau meddwl.

 Dywedodd Karen Sharrock, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r cyflenwadau gardd hyn.

Garden supplies for horticultural therapy

“Mae’r ardal awyr agored yn darparu amgylchedd therapiwtig a thawel yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion ddysgu ac adeiladu ar eu sgiliau galwedigaethol gan ddefnyddio garddwriaeth fel y cyfrwng therapiwtig.

 “Mae’r ardd yn brosiect parhaus sy’n rhan o gynllun gofal a thriniaeth y cleientiaid, gan alluogi adferiad ac annibyniaeth gyda’r nod o gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a chysylltu â phrosiectau eraill yn y gymuned leol.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.