9.9 C
Llanelli
Saturday, May 9, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Digwyddiad tei du yn codi dros £4,000 ar gyfer Uned Gofal Arbennig...

Digwyddiad tei du yn codi dros £4,000 ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod Glangwili

0
397
image002 3
image002 3

Trefnodd Carys Petty, codwr arian, ddigwyddiad tei du a chodwyd £4,010 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty’r Diplomat yn Llanelli ar 13 Mai 2023

Treuliodd Vinny Dunleavey, mab Carys a’i phartner Jamie Dunleavy, dri mis cyntaf ei fywyd yn yr ysbyty.

Dywedodd Carys: “Roedd codi’r arian yn werth chweil. Mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl yn anhygoel.

 “Fe wnaethon ni werthu dros 250 o docynnau. Cynhaliwyd raffl, ocsiwn, a phen a chynffon a gemau eraill i godi’r arian. Mae’n lwcus fy mod ar gyfnod mamolaeth gan fod trefnu’r digwyddiad yn swydd llawn amser!

 “Mae’r nyrsys ar SCBU yn rhagorol ac roeddent yn anhygoel o gefnogol yn ystod ein hamser gyda nhw cyn i ni drosglwyddo i Gaerdydd. Hoffem ddiolch i Dr Matt Pickup a therapyddion Vinny yn y tîm newyddenedigol sydd wedi bod yn gefnogaeth anhygoel ac sy’n parhau i fod yno i ni fel teulu.”

 Dywedodd Bethan Osmundsen, Prif Nyrs Newydd-anedig: “Rydym wedi ein syfrdanu gan haelioni’r rhieni a’r teuluoedd sy’n parhau i feddwl amdanom ac yn dewis cefnogi’r SCBU yn Hywel Dda.

 “Diolch am eich holl ymdrechion codi arian gan y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i barhau i ofalu am y babanod a’r teuluoedd, sydd angen ein cymorth a’n cefnogaeth. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, diolch yn fawr.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here