17.7 C
Llanelli
Thursday, September 10, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Aduniad ysgol yn codi £900 i Uned Cemo Bronglais

Aduniad ysgol yn codi £900 i Uned Cemo Bronglais

0
568
Dinas Secondary Modern 50th Anniversary Reunion
Dinas Secondary Modern 50th Anniversary Reunion

Mae Aduniad Hanner Canmlwyddiant Ysgol Uwchradd Dinas wedi codi £900 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.

 Trefnodd hen ffrindiau ysgol oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Fodern Dinas yr aduniad a gynhaliwyd yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Hydref 21ain.

 Fe wnaethon nhw godi arian i’r uned gan fod nifer o gyn-ddisgyblion wedi cael triniaeth am ganser.

 Dywedodd Dewi Alun Jones, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Fodern Dinas: “Roedd yna gerddoriaeth fyw, disgo a raffl. Roedd yn braf siarad â hen ffrindiau wrth werthu’r tocynnau raffl.

“Diolch i bawb a ddaeth i’r parti a’r rhai a roddodd o’u hamser i’w drefnu.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i  www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.