10.7 C
Llanelli
Thursday, April 16, 2026
Home Education Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi cael swyddi newydd ar ôl cwblhau rhaglen...

Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi cael swyddi newydd ar ôl cwblhau rhaglen glodfawr mewn coedwigaeth.

0
385
Llysfasi training
Llysfasi training

Cyhoeddodd Tilhill, cwmni blaenllaw’r Deyrnas Unedig mewn creu coetiroedd, rheoli coedwigaeth a chynaeafu pren, a Foresight Sustainable Forestry Company Plc bod eu Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Cynaliadwy Foresight wedi’i chwblhau yng Nghymru a’r Alban.

Wedi ei lansio yn 2022, nod y rhaglen oedd helpu pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i gael gwaith ym maes coedwigaeth trwy roi hyfforddiant, cyfarpar iechyd a diogelwch, a mentora. Oherwydd ei llwyddiant, cafodd y rhaglen ei chynnig yn yr Alban y flwyddyn ganlynol.

Mae’r Deyrnas Unedig yn profi prinder difrifol mewn sgiliau coedwigaeth wrth iddo geisio cyflawni targedau plannu coed i fynd i’r afael â newid hinsawdd a bodloni’r galw cynyddol am bren sydd wedi ei dyfu gartref.

Yn 2023, roedd oddeutu 80% o’r pren a ddefnyddiwyd yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei fewnforio, sy’n golygu mai dyma’r trydydd mewnforiwr mwyaf o bren yn fyd-eang – gan amlygu angen clir i well sgiliau ac ehangu’r gweithlu contractwyr coedwigaeth.

Cafwyd dros 70 o ymgeiswyr ar gyfer y cwrs diweddaraf ac mae’r 10 ymgeiswyr a ddewiswyd bellach wedi cwblhau eu hyfforddiant wedi ei ariannu’n llawn yng Ngholeg Cambria Llysfasi a Choleg Barony SRUC, Dumfries.

Mae’r hyfforddeion, Ynyr Roberts, Brychan Edwards, Rhys Ap Gwyndaf, a Bedwyr Roberts o Gymru wedi cael eu cyflogi gan Tilhill fel contractwyr i wneud gwaith plannu yn ei safleoedd creu coetiroedd.

Wales FSFSTP Trainees

Dywedodd David Edwards, Cyfarwyddwr Coedwigaeth Tilhill: “Mae’n bleser mawr gallu croesawu 10 o bobl sydd newydd gymhwyso i’r diwydiant coedwigaeth yn yr Alban ac yng Nghymru.

“Mae Tilhill yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi i gyflwyno’r rhaglen hon sydd wir wedi gwella sgiliau’r ymgeiswyr hyn mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â choedwigaeth gan sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn y diwydiant coedwigaeth.”

Ychwanegodd Andy White, Darlithydd Arweiniol Coedwigaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi: “Mae Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Cynaliadwy Foresight yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n chwilio am ffordd o ddechrau yn y diwydiant coedwigaeth.

“Mae myfyriwr llwyddiannus eleni wedi bod yn ddigon lwcus i gael hyfforddiant a chymwysterau mewn ystod eang o sgiliau ymarferol coedwigaeth gan gynnwys torri coed a defnyddio llif gadwyn, cymorth cyntaf, strimiwr, defnyddio torrwr prysgoed a llif glirio, gyrru a gweithredu tractor, a defnyddio plaladdwyr.

“Mae gwaed newydd yn brin ym maes coedwigaeth, felly mae croeso arbennig i’r rhaglen hon i annog pobl newydd i ddod, a rhoi’r hanfodion sydd eu hangen arnyn nhw i ddechrau.

“Mae haelioni Foresight wrth ariannu’r cyrsiau hyn, a darparu’r holl PPE angenrheidiol, yn dangos eu hymrwymiad i brifio’u cenhedlaeth newydd o goedwigwyr y dyfodol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here