9.7 C
Llanelli
Sunday, October 18, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Digwyddiadau codi arian yn codi dros £12,000 ar gyfer uned cemo

Digwyddiadau codi arian yn codi dros £12,000 ar gyfer uned cemo

0
40
Alberto Sarah and Tomos scaled
Alberto Sarah and Tomos scaled

Mae Alberto Almeida, Sarah Davies a Tomos Jones wedi codi £12,600 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

Dechreuodd Alberto, sydd wedi derbyn triniaeth yn yr uned, godi arian ym mis Medi 2023. Trefnodd dwrnamaint pêl-droed elusennol, ac yna noson elusennol yn Neuadd Llangain yng Nghaerfyrddin a oedd yn cynnwys raffl ac arwerthiant.

 

Fe wnaeth Tomos Jones, mab bedydd, 14 oed Alberto, gymryd rhan yn y gwaith codi arian drwy awgrymu i’w gyd-chwaraewyr rygbi y dylen nhw gymryd rhan yn y nofio môr ar Ddydd San Steffan yn Ninbych-y-pysgod a gododd y swm gwych o £1,600 tuag at yr achos.

Dywedodd Sarah Davies, Gwraig Alberto: “Mae Alberto yn ymwybodol iawn o’r gwaith caled a wneir yn yr uned gan yr holl staff. Mae’n hynod ddiolchgar iddynt am eu holl ofal a chefnogaeth. Mae’n teimlo eu bod nhw i raddau helaeth ar y daith gydag ef. Byddwn ni fel teulu yn ddiolchgar am byth am eu hymroddiad.

 

“Rwyf wedi bod yn hyderus wrth ei ollwng wrth y drws bob pythefnos gan wybod y byddant yn gofalu amdano yn gorfforol ac yn emosiynol tra ei fod yn eu gofal. Mae hynny’n gysur enfawr ac yn mynd yn bell iawn i’n helpu i ymdopi â’n sefyllfa.

 

“Daeth cymaint o bobl i gefnogi’r twrnamaint pêl-droed a’r noson codi arian. Mae haelioni pobl wedi bod yn arbennig. Mae’n drist sylweddoli faint o bobl sydd eisoes wedi defnyddio’r uned cemo, a faint sydd byth yn gwybod a fyddent ei angen un diwrnod. Ni wnaethom erioed ddychmygu dwy flynedd yn ôl y byddai’n dod yn rhan mor enfawr o’n bywydau, ac rydym yn ddiolchgar bob dydd am y gwaith y maent yn ei wneud.

 

“Rydym yn falch iawn o Tomos am awgrymu Dip Môr Gŵyl San Steffan, ac yn ddiolchgar i’w gyd-chwaraewyr am gytuno i ymuno ag ef. Diolch i’r bechgyn pêl-droed pump bob ochr am drefnu’r twrnamaint, ac i ffrindiau, teulu, cymdogion a busnesau lleol am gefnogi’r noson codi arian, a thîm Rygbi Dan-14 Sanclêr am wneud y dip môr.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch i Alberto, Sarah a Tomos am godi swm mor wych ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.