TrC yn cyhoeddi cynllun ar gyfer y dyfodol er mwyn ateb gofynion rheilffyrdd sy’n newid

0
144
197 Carmarthen 13

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau adolygiad o’u hamserlenni ar gyfer y dyfodol yn dilyn newid yn y galw am deithio ar y rheilffyrdd ar ôl Covid.

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o’r galw presennol am reilffyrdd a’r twf a ragwelir yn y dyfodol, mae TrC wedi datblygu strategaeth hirdymor newydd i gyd-fynd yn well ag arferion a gofynion teithio newydd cwsmeriaid, gan ddod yn weithredwr gwirioneddol aml-ddull.

O ganlyniad i’r adolygiad, bydd rhai llwybrau rheilffordd yn gweld mwy o wasanaethau a threnau hirach gyda mwy o seddi, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig tymhorol.  Bydd llwybrau eraill yn gweld patrymau galw ychydig yn wahanol wedi’u targedu’n well at anghenion cyfredol.

Fodd bynnag, bu’n rhaid i TrC wneud rhai penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau ei fod yn darparu capasiti lle mae ei angen fwyaf, yn tyfu refeniw ac yn y pen draw yn lleihau cymhorthdal cyhoeddus

Mae rhai o’r newidiadau allweddol yn cynnwys:

  • Rhedeg 87 o wasanaethau ychwanegol ar lwybrau prif lein o’i gymharu â phan gymeron ni’r awenau yn 2018 ac ychwanegwyd mwy o gerbydau at rai o’r gwasanaethau prysuraf er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol.
  • Cael gwared ar nifer fach o wasanaethau sydd â galw isel iawn gan deithwyr.
  • Darparu capasiti ychwanegol ar lwybrau poblogaidd yr haf.
  • Gohirio rhai ymrwymiadau a wnaed yn gynharach ar gyfer mwy o wasanaethau ar rai llwybrau.

Mae TrC yn parhau i fod yn ymrwymedig ac mae’n parhau i ddarparu ei fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ar gyfer ei rwydwaith cyfan.

Mae adborth rhanddeiliaid ar amserlenni cyfredol, niferoedd teithwyr ac ystyriaeth fanwl o opsiynau teithio amgen i gyd wedi bwydo i mewn i adolygiad TrC.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad:

“Rydym wedi cwblhau ein hadolygiad o amserlenni’r dyfodol. Bydd yr amserlenni newydd a gynigir yn rhoi mwy o wydnwch i ni yn ystod cyfnod y gaeaf ac yn bodloni gofynion teithio sydd wedi newid yn sgil Covid.

“Mae bron pob gwasanaeth y mae TrC yn ei weithredu yn gofyn am gymhorthdal cyhoeddus, ac fel gweithredwr cyfrifol mae’n hanfodol i TrC gydbwyso’r anghenion am wasanaeth rheolaidd, cadarn a dibynadwy gyda’r cyllidebau sydd ar gael i sicrhau gwerth i drethdalwyr a thrafnidiaeth fwy cynaliadwy.”

Mae TrC yn bwriadu cyflwyno’r amserlenni hyn dros y blynyddoedd nesaf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle