11 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Cymdeithion Teithio yn helpu pobl i deithio ar y trên

Cymdeithion Teithio yn helpu pobl i deithio ar y trên

0
353
Guide dogs Cymru meeting with Tfw Travel Companions
Guide dogs Cymru meeting with Tfw Travel Companions

Mae gan bobl sydd â nam ar eu golwg fwy o hyder i deithio diolch i fenter newydd gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae timau o Gymdeithion Teithio wedi’u cyflogi mewn gorsafoedd allweddol gan gynnwys Caerdydd Canolog, Caer, Abertawe, Casnewydd a’r Amwythig i helpu’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol i deimlo’n fwy hyderus wrth deithio.

Yn Abertawe y mis hwn, cyfarfu aelodau Guide Dogs Cymru â’r tîm Cymdeithion Teithio i ddeall sut y byddai’r rolau newydd yn gweithio.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

“Mae’r fenter wych yma yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl â nam ar eu golwg. Gall gwybod bod cymorth ar gael gwneud byd o wahaniaeth.”

Dywedodd Andrea Gordon, Rheolwr Materion Allanol Guide Dogs Cymru:

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn i bobl sydd wedi colli eu golwg fynd allan a byw bywyd fel y maen nhw’n dymuno. Gall cael ci tywys agor byd hollol newydd o bosibiliadau teithio annibynnol ond, o ran teithiau trên, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar y perchennog i gael mynediad i’r orsaf a dod o hyd i’w trên. Efallai y bydd angen help neu gyngor arnynt hefyd yn ystod eu taith. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun Cymdeithion Teithio yn helpu i wneud teithio ar drên yn brofiad gwell iddynt.”

Yng Ngorsaf Reilffordd Abertawe, crëwyd swyddfa newydd ar flaen yr orsaf lle gall cwsmeriaid ddod i siarad â’r tîm a chael cyngor ynglŷn â phrynu tocynnau, neilltuo seddi, derbyn cymorth yn ystod eu taith a dod o hyd i wybodaeth am amhariadau. Mae’r tîm ar gael rhwng 8yb ac 8yp bob dydd.

Ac er bod cryn dipyn o fuddsoddiad wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud pob trên ar lwybrau Cymru a’r Gororau yn gwbl hygyrch, dim ond 13% o’r bobl anabl a holwyd sydd yn defnyddio trenau a ddywedodd y gallant ddefnyddio’r trên yn hyderus ac yn rhwydd.

Video: https://newyddion.trc.cymru/adnoddau/d8hmi-eh1cp-dcmtr-gwnj9-21nrn

Dywedodd Cydymaith Teithio Abertawe, Suzanne Churchouse bod y rolau newydd yn “hynod o werth chweil”.

Meddai: “Rydyn ni i gyd yn newydd i’r rolau hyn felly mae hi wedi bod yn wych dysgu gyda’n gilydd a dod o hyd i’r ffyrdd gorau o helpu cwsmeriaid. Mae’n amlwg bod gan bob cwsmer ei anghenion a’i bryderon unigol wrth deithio ac i ni, mae rhoi’r hyder iddyn nhw i deithio yn hynod o werth chweil.

“Mae hi wedi bod yn wych gweithio gyda pherchnogion cŵn tywys i ddeall yr hyn sydd ei angen ar deithwyr pan fyddan nhw’n cynllunio taith. Mae pethau fel sicrhau bod digon o le i’w ci eistedd wrth eu hymyl a’u bod nhw’n gallu eistedd yn rhan gywir y trên yn allweddol.”

Mae pob cydymaith teithio wedi cael hyfforddiant tywys gyda Chŵn Tywys hefyd. Trefnwyd yr ymweliad fel rhan o gynllun ‘Teithio’n Hyderus’ TrC, sy’n ceisio cefnogi pobl nad ydynt o bosib yn defnyddio’r trên yn aml iawn neu a allai fod angen cymorth ychwanegol wrth deithio.

Dan arweiniad y tîm rheilffyrdd cymunedol, mae’r cynllun yn gweithio gyda grwpiau cymorth cymunedol i helpu pobl i gael y profiad, y wybodaeth a’r hyder i deithio ar y trên. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy gysylltu â community@tfw.wales

Gallwch archebu Cymorth wrth Deithio ar gyfer eich taith gyfan hyd at ddwy awr cyn i’ch taith ddechrau trwy’r dulliau canlynol:

Ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr: 03330 050 501

Defnyddiwch ein gwasanaeth Neges Destun y Genhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 (ar gyfer pobl ag anawsterau clyw a lleferydd) Chwiliwch ar-lein: Archebu cymorth arbennig | TrC


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.