9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Awards Mae Harry Ashfield wedi sgorio Gwobr Academi ar ôl iddo chwarae rhan...

Mae Harry Ashfield wedi sgorio Gwobr Academi ar ôl iddo chwarae rhan annatod yn CPD Wrecsam y tymor yma.

0
392
HarryAshfieldNEW
HarryAshfieldNEW

Mae’r myfyriwr Coleg Cambria a chwaraewr canol cae dan 18 – sydd wedi chwarae’n llawn i’r tîm am y tro cyntaf ym mis Hydref – wedi ennill tlws Chwaraewr y Tymor 2023/24 Academi Bob Clark wrth iddo wneud argraff arbennig a bod yn gapten sawl gwaith.

Cafodd y tîm ei guro o drwch blewyn ar gyfer teitl Cynghrair Ieuenctid EFL Gogledd-Orllewin gan Preston, ond wrth edrych yn ôl arflwyddyn anhygoel”, roedd Harry wrth ei fodd gyda’i gynnydd.

Roedd cael chwarae i’r tîm cyntaf a chyfrannu at lwyddiant y tîm dan 18 – er ein bod ni wedi colli allan ar y teitlyn werth chweil i mi,” meddai Harry sy’n 17 oed, sy’n dod o’r ddinas ac wedi bod gyda’r Dreigiau Coch ers iddo fod yn 6 oed.

“Dwi wedi cael blas o chwarae o flaen ein cefnogwyr bendigedig ni yng Nghae Ras STōK, felly fy uchelgais rŵan ydy parhau i weithio a hyfforddi’n galed i mi allu profi hynny dro ar ôl tro.

“Mae ennill Gwobr Chwaraewr Academi y Tymor yn fraint enfawr hefyd felly diolch i bawb sydd wedi rhoi gymaint o gefnogaeth i mi yn ystod y tymor yma, yn arbennig fy nheulu, ffrindiau a phawb yn y clwb.”

Gwnaeth Harry ymddangos yn sgwad Phil Parkinson am y tro cyntaf ym mis Hydref y llynedd gyda buddugoliaeth 0-3 yn Nhlws EFL yn erbyn Crewe Alexandra yn Stadiwm Mornflake.

Harry Ashfield AWARD

Mae Harry’n ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon ar safle Iâl Cambria ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Darland, ac mae’n gobeithio cael bod yn rhan o’r tîm yn rheolaidd ar ôl cael blas o fywyd sêr y stadiwm, gan fod y clwb yn amlwg yn fyd eang oherwydd ei berchnogion o Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

“Dwi wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm cyntaf dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi bod yn hollol anhygoel yn sgil popeth sydd wedi digwydd ar y cae ac oddi arnomae wedi bod yn rhyfeddol,” ychwanegodd.

Dwi’n gorffen coleg yr haf yma a dwi’n gobeithio mi fydda i’n canolbwyntio’n llawn ar bêl-droed fel gyrfa.”

Gwnaeth Sally Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Busnes yn Iâl llongyfarch Harry ar ei wobr.

“Mae Harry wedi dod yn ei flaen yn arbennig y tymor yma, gan chwarae i’r tîm cyntaf ac erbyn hyn ennill gwobr Chwaraewr Academi y Flwyddynrydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.