18.9 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Noson codi arian yn codi £5,000 i Uned Cemo Bronglais

Noson codi arian yn codi £5,000 i Uned Cemo Bronglais

0
379
image002 3
image002 3

Trefnodd Eirian Jones ac Emyr Jones, perchnogion Teifi Forge LTD, noson i godi arian a chodwyd £5,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Mae Teify Forge Ltd yn fusnes saernïo yng Nghwmann a sefydlwyd ym 1979 gan Emyr ac Eirian.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 18 Tachwedd 2023 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Eirian: “Fe wnaethon ni gynnal noson codi arian gyda’r canwr a’r comediwr, Mike Doyle a’i fand, ynghyd â chantores wadd fenywaidd. Cynhaliwyd ocsiwn a raffl ar y noson hefyd.

“Rydym wastad wedi cynnal digwyddiadau gwahanol i godi arian ar gyfer elusennau amrywiol dros y blynyddoedd. Codwyd £10,000 a fydd yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Cemo Bronglais.

“Diolch i bawb a fynychodd y noson ac a roddodd yn hael.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Ceredigion: “Hoffem anfon ein diolch diffuant i Eirian ac Emyr am drefnu’r digwyddiad codi arian a chodi swm mor wych at achos gwych.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.