9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home hywel dda health board ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ – cymorth gyda gofal iechyd yn eich cymuned

‘Fy Iechyd, Fy Newis’ – cymorth gyda gofal iechyd yn eich cymuned

0
354
b0d7cc56e985d75b org scaled
b0d7cc56e985d75b org scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi creu adnoddau, gan gynnwys fideos o’r enw “Fy Iechyd, Fy Newis”, i roi gwybodaeth hawdd i’w deall i bobl am gael mynediad at Ofal Sylfaenol yn eu cymunedau.

Mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn cynnwys practisau meddygon teulu, Fferyllfeydd Cymunedol, gwasanaethau deintyddol y GIG a Phractisau Optometrig (cyfeirir atynt yn aml fel Optegwyr). Mae’r rhain i gyd yn rhan hanfodol o’r ffordd y darperir gwasanaethau i’n poblogaeth. Gall gwybod sut a phryd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn sicrhau bod pobl yn gwneud y dewis cywir ynghylch pa wasanaeth y gall fod ei angen arnynt a chael cyngor neu driniaeth briodol yn gyflymach.

“Mae’n wirioneddol bwysig i gleifion ddeall pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol a sut a phryd i gael mynediad atynt, ac wrth gwrs i feddwl am yr hyn y gall cleifion ei wneud eu hunain i gynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain”, meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. “Rydym wedi creu’r adnoddau ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ gyda’r nod o rymuso pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd. Bydd gwybod pryd a ble i geisio cymorth yn galluogi pobl i gael y gofal cywir ar yr amser cywir. Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn helpu unigolion a’n cymunedau lleol i wneud y defnydd gorau o’u gwasanaethau lleol fel y gallant fod yn fwy effeithlon a hygyrch i bawb”.

Mae’r adnoddau “Fy Iechyd, Fy Newis” a fideos dwyieithog byr ar gael i’w gwylio ar-lein yn https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-gofal-sylfaenol. Bydd posteri gyda chodau QR sy’n cysylltu â’r adnoddau hyn ar gael mewn Practisau Meddygon Teulu, Fferyllfeydd Cymunedol, Practisau Deintyddol GIG, Optometryddion, Ysbytai a Chanolfannau Cymunedol. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon i ysgolion a bydd yn cael ei defnyddio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd ar Facebook, Instagram ac X.

Gobeithiwn y bydd pobl yn gwylio’r fideos ac yn eu rhannu gyda’u ffrindiau a theulu.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.