Bydd cynffonau’n sicr o chwifio wrth i Trafnidiaeth Cymru gyflwyno byrbrydau cŵn

0
94
TfW x Dewkes

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch o gyhoeddi lansiad bwydlen danteithion cŵn newydd – y tro cyntaf i gwmni trên yn y DU gyflwyno bwydlen o’r fath.

Gyda phoblogrwydd cynyddol cyrchfannau sy’n gyfeillgar i gŵn ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, mae TrC wedi ehangu’r hyn a gynigir er mwyn darparu ar gyfer anghenion perchnogion cŵn ar wasanaethau rheilffordd penodol sy’n rhedeg rhwng gogledd a de Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth â byrbrydau cŵn Dewkes, mae TrC yn cynnig opsiynau bwyd cyfleus a blasus i deithwyr a’u cymdeithion anwes, a chaiff yr holl ddanteithion eu gwneud gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o ansawdd uchel.

Mae’r amrywiaeth o fwyd cŵn y mae Dewkes yn ei gynnig yn bodloni cŵn o bob lliw a llun ar eu taith.

Piers Croft & James Bygate

Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr ar drenau Trafnidiaeth Cymru:

“Gan fod modd cyrraedd cymaint o ardaloedd prydferth yng Nghymru a’r Gororau gan ddefnyddio gwasanaethau TrC, rydym yn falch iawn o gael croesawu’r teulu cyfan, gan gynnwys yr aelodau hynny sydd â phedair coes, ar ein trenau.

Trwy stocio byrbrydau cŵn Dewkes, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu rhywbeth i bawb.”

Dywedodd James Bygate, Rheolwr Gyfarwyddwr Dewkes:

“Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi’r cyfnod newydd hwn o deithio, sy’n gyfeillgar i gŵn, yn ogystal â chyflawni ein nod, sef darparu byrbrydau sy’n faethlon ac yn iachus i gŵn cymdeithasol sy’n teithio ar hyd a lled y wlad.

Mae’r fenter arloesol hon nid yn unig yn gwella’r profiad teithio i berchnogion cŵn ond hefyd yn cefnogi busnesau lleol ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd gyda byrbrydau wedi’u lapio mewn deunyddiau pacio cynaliadwy, y gellir eu hailgylchu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle