5.9 C
Llanelli
Sunday, October 18, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Diffoddwyr Tân yn dangos Dewrder yn ystod Her Elusennol

Diffoddwyr Tân yn dangos Dewrder yn ystod Her Elusennol

0
59
Three Peaks Rescue 04 Header scaled
Three Peaks Rescue 04 Header scaled

Ddydd Gwener, 6 Medi, cymerodd 12 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, sy’n golygu cyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr. 

Mae’r her yn gyfanswm pellter cerdded o 17 milltir ac esgyniad o 2,334 metr, a chymerodd personél GTACGC ran i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Wrth iddynt gymryd rhan mewn her anodd, dangosodd dau aelod o’r tîm – y Rheolwr Grŵp Phil Morris a’r Diffoddwr Tân Ar Alwad Darren Davies – ddewrder ac ymrwymiad eithriadol i ddiogelwch, trwy gario person oedd wedi’i anafu am dros dair milltir.

Wrth ddod i lawr yr Wyddfa, daeth y tîm ar draws Jack Smith a’i ffrindiau. Roedd Jack wedi anafu ei droed wrth ddringo’r mynydd ac ni allai roi unrhyw bwysau arni.  Gyda thair milltir o leiaf yn weddill nes iddynt gyrraedd gwaelod yr Wyddfa, a’r risg y byddai Jack a’i ffrindiau yn sownd yn y tywyllwch, penderfynodd Phil a Darren y byddent yn ei gario oddi ar y mynydd.

I ddechrau, fe wnaethon nhw geisio cario Jack mewn bag tunnell roedden nhw wedi’i ddarganfod ar y mynydd, ond daeth yn amlwg yn fuan y byddai’r tir creigiog yn golygu bod hyn yn anymarferol.  Felly, penderfynodd y ddau ohonynt gymryd eu tro i gario Jack ar eu cefnau i waelod y mynydd, gan gyrraedd man diogel yn y pen draw.

Llwyddodd Phil a Darren i ddefnyddio eu blynyddoedd o hyfforddiant tân ac achub a’u hymroddiad i ddiogelwch y cyhoedd i gynorthwyo Jack i ddod i lawr yr Wyddfa ac i fan diogel.  Da iawn Phil a Darren!

Mae’r tîm yn dal i gasglu arian ar eu tudalen JustGiving a bydd unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleTîm Cymru on the catwalk at London Fashion Show
Next articleWoodland regeneration at Cynheidre
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.