18.2 C
Llanelli
Wednesday, August 5, 2026
Home Work Apprenticeship Wythnos Prentisiaethau Cymru: cyngor a chyfarwyddyd rhad ac am ddim ar gael...

Wythnos Prentisiaethau Cymru: cyngor a chyfarwyddyd rhad ac am ddim ar gael i bobl yn Sir Gaerfyrddin i archwilio cyfleoedd

0
442
Apprenticeships 2
Apprenticeships 2

Wrth i Wythnos Prentisiaethau Cymru fynd rhagddi, mae Gyrfa Cymru yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i helpu pobl i archwilio’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae prentisiaethau yn un o nifer o lwybrau y gall unigolion eu cymryd i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau, a meithrin profiad yn y gweithle.

Maent yn cynnig cyfle i bobl o bob oed ennill arian wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau cydnabyddedig a phrofiad ymarferol gwerthfawr.

Yn 2022-2023, gwelodd Cymru ymgysylltu sylweddol â rhaglenni prentisiaeth. Yn ystod y flwyddyn honno, cychwynnwyd 22,880 o raglenni dysgu prentisiaeth yng Nghymru.  Roedd hyn yn gynnydd o 14% ers y flwyddyn flaenorol (2021-2022). (Daw’r holl ddata o Dangosfwrdd Dysgu Prentisiaethau Medr

Mature adult and young adult recycling coworkers wearing orange reflective vests standing in warehouse and discussing over clipboard.

Roedd 25% o’r rhain yn ne orllewin Cymru, lle cychwynnwyd ar 5,650 o brentisiaethau. Cychwynnodd 1,365 o bobl brentisiaethau yn ystod y flwyddyn yn Sir Gaerfyrddin yn unig.

Gyda chyfleoedd mewn 23 o sectorau amrywiol, o ddiwydiannau creadigol i sgiliau gwyrdd, mae rhywbeth at ddant pawb. Y pum rhaglen dysgu prentisiaeth orau yn yng Nghymru yn 2022-2023 oedd:

  1. Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus
  2. Rheolaeth a Phroffesiynol
  3. Adeiladu
  4. Gweinyddu Busnes
  5. Peirianneg

Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig y mae prentisiaethau yn addas. Pobl dros 19 oed oedd yn dilyn hyfforddiant dros 70% o brentisiaethau yng Nghymru yn 2022-2023. Pobl 40 oed ac yn hŷn oedd yn dilyn hyfforddiant dros 4,500 (neu 20%) o brentisiaethau a ddechreuodd yn 2022-2023.

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu prentisiaethau, a’r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach Cymru.

“Mae prentisiaethau’n darparu llwybr i bobl ennill cymwysterau wrth weithio ac ennill cyflog, a gallant fod yn llwybr gwerthfawr i’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.

“Gall ein cynghorwyr gyrfa ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bobl o bob oed i archwilio prentisiaethau, yn ogystal â’r ystod lawn o opsiynau amgen sydd ar gael iddynt.”

I’r rhai sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru, mae adnoddau ar gael, gan gynnwys yr adnodd chwilio am brentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru, i’w cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt.

Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaethau am ddim a ddarperir gan Gyrfa Cymru and Cymru’n Gweithio, ffoniwch 0800 028 4844 neu e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.