1079px The Chancellor delivers the Autumn Budget 2024
Mae cynghorau “mewn sefyllfa amhosib”, maent wedi eu gorfodi i dorri gwasanaethau a chynyddu treth Cyngor o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Lafur Cymru, rhybuddir arweinwyr Cyngor Plaid Cymru.
Wrth ymateb i’r gyllideb derfynol, dywedodd arweinwyr cynghorau Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ynys Môn a Cheredigion na fydd “mân newidiadau munud olaf” yn gwneud fawr ddim i leddfu’r pwysau ar wasanaethau sydd eisoes yn fregus.
Ar ôl dysgu am gynlluniau terfynol y llywodraeth Lafur, dywedodd Darren Price, Nia Jeffreys, Gary Pritchard a Bryan Davies:
“Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser y byddai cynghorau yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib, yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau, a chynyddu treth y Cyngor. “
“Yn anffodus, mae hynny’n parhau’n wir ac nid yw’r mân newidiadau munud olaf hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru yn gwneud fawr ddim i leddfu’r pwysau ar wasanaethau sydd eisoes yn fregus.
“Rhybuddiodd arweinwyr cyngor Plaid Cymru ym mis Rhagfyr am y rhagolygon ariannol peryglus ar gyfer gwasanaethau lleol.
“Gwnaethom rybuddio Gweinidogion bod y cynnydd cyfartalog o 4.3% i gynghorau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf yn amlwg yn methu â chwrdd â’r pwysau ar gyllidebau cynghorau.”
“Er bod £30m ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol, mae’r ffaith nad yw wedi’i gynnwys yn y llinell sylfaen yn golygu fod dim cyfle i gynghorau liniaru’r cynnydd sydd ar y gweill yn Nhreth Cyngor.
“Mae’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU llynedd hefyd yn achos pryder enfawr i gynghorau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif bod y gost i awdurdodau lleol yn £109m, ac ni fydd y gost hon yn cael ei dalu’n llawn. Mae hynny’n cynrychioli pwysau cost arall eto i gyllidebau sydd eisoes wedi’u gwasgu gan gynghorau.
“Os yw ‘partneriaeth mewn pŵer’ Llywodraeth Lafur Cymru gyda’u cyfeillion yn San Steffan yn golygu unrhyw beth, yna bydd Datganiad y Gwanwyn ddiwedd mis Mawrth yn rhoi’r hwb ariannol i Gymru mae gwir angen i ni wneud iawn am ddegawdau o gyllid annheg.”
[donate]
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.
If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.
We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.AcceptPrivacy Policy