22.3 C
Llanelli
Wednesday, July 15, 2026
Home hywel dda health board Digwyddiadau galw heibio i ddysgu am wasanaeth Uned Mân Anafiadau Llanelli

Digwyddiadau galw heibio i ddysgu am wasanaeth Uned Mân Anafiadau Llanelli

0
409
Prince Philip Hospital
Prince Philip Hospital

Gwahoddir aelodau o’r gymuned leol i fynychu digwyddiadau galw heibio i ddysgu am y broses ymgysylltu barhaus ynghylch yr Uned Mân Anafiadau (MIU) yn Ysbyty Tywysog Philip.

Bydd y digwyddiadau’n gyfle i glywed am yr opsiynau posibl sy’n cael eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth Uned Mân Anafiadau. Gall mynychwyr alw heibio unrhyw bryd i siarad â staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys clinigwyr, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda’r broses ymgysylltu a’r camau nesaf.

Manylion Digwyddiadau Galw Heibio:

  1. Neuadd Goffa Llandybie
    Ystafell Gynadledda, Heol Woodfield, Llandybie, Rhydaman SA18 3UR
    Dydd Iau 6 Mawrth 2025, rhwng 3.00pm – 6.00pm
  2. Canolfan Antioch
    Heol Copperworks, Llanelli SA15 2NE
    Dydd Llun 17 Mawrth 2025, rhwng 3.00pm – 6.00pm

Mae’r sesiynau hyn yn agored i bawb ac yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a chael gwybod am y camau nesaf yn y broses datblygu opsiynau.

Gall aelodau o’r gymuned nad ydynt yn gallu mynychu’r digwyddiadau galw heibio gyfrannu eu barn yma. Bydd Cynghorwyr Tref, Sir a Chymuned Lleol hefyd yn cael eu gwahodd i sesiwn ar-lein i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.

Cefndir a’r Camau Nesaf:

Dechreuodd proses ymgysylltu barhaus ddechrau mis Chwefror i archwilio ateb hirdymor cynaliadwy.  Mae grŵp amrywiol o randdeiliaid yn cydweithio i adolygu a sgorio nifer o opsiynau posibl. Mae’r grŵp sy’n ymwneud â’r broses hon yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol, staff gofal iechyd, grwpiau ymgyrchu a sefydliadau partner – bydd eu hopsiynau ar y rhestr fer yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd ar 27 Mawrth.

Ni fydd y Bwrdd yn penderfynu pa opsiwn i’w symud ymlaen yn ystod ei gyfarfod ym mis Mawrth, bydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl cyfres o ymrwymiadau ehangach. Bydd y rhain yn ceisio barn y cymunedau ehangach ar yr opsiynau arfaethedig, yn ogystal â rhoi cyfle i gyflwyno syniadau eraill y maent yn teimlo y dylai’r Bwrdd eu hystyried.

Mae’r Uned Mân Anafiadau yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed gyda mân anafiadau megis mân anafiadau, mân losgiadau neu sgaldiadau, mân anafiadau i’r coesau, brathiadau a phigiadau, cyrff estron yn y glust neu’r trwyn, a mân anafiadau i’r llygaid.

Cyflwynwyd y newid dros dro i oriau agor Uned Mân Anafiadau (MIU) Ysbyty Tywysog Philip ar 1 Tachwedd 2024, gan newid yr oriau i 8:00am – 8:00pm bob dydd. Gwnaed y newidiadau hyn i fynd i’r afael â phryderon diogelwch oherwydd prinder meddygon teulu a phryderon a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Dywedodd Arweinydd Clinigol yr Uned Mân Anafiadau, Jon Morris: “Er mwyn sicrhau diogelwch a hyder y bobl sy’n mynychu’r uned mân anafiadau, mae angen i ni allu darparu gwasanaeth addas i’r diben yn ystod yr holl oriau agor.

“Mae’r anallu i gyflenwi’r rota’n gyson, gyda meddygon â’r cymwysterau addas, yn enwedig gyda’r nos a thros nos, yn peri risg i’n cleifion a’n staff.”

Mae trafodaethau yn y sesiynau ymgysylltu wedi canolbwyntio ar yr opsiynau, recriwtio, a diogelwch, yn ogystal â phryderon ynghylch mynediad at ofal i unigolion heb gar.

Nid yw’r newid wedi effeithio ar Uned Asesu Meddygol Acíwt yr ysbyty, sy’n darparu gofal brys i gleifion meddygol sâl iawn, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon, ac mae’n parhau i fod yn wasanaeth 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae cleifion yn cael eu cludo i’r uned hon yn uniongyrchol gan y gwasanaeth ambiwlans, neu’n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, neu gan y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.

Mae’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau lleol yn parhau i weithredu o Ysbyty Llanelli a gellir ei gyrchu drwy ffonio GIG 111 Cymru pan nad yw eich meddygfa ar agor (rhwng 6.30pm a 8.00am o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar benwythnosau a Gwyliau Banc). Dim ond trwy drefniant gyda GIG 111 Cymru y gwelir cleifion gan nad yw hwn yn wasanaeth ‘galw i mewn’.

Cyngor i bobl ar gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt:

  • Os oes angen help arnoch gyda mân anafiadau rhwng 8.00am ac 8.00pm, gall pobl barhau i gyflwyno eu hunain (cerdded i mewn) i’r Uned Mân Anafiadau, Ysbyty Tywysog Philip. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall yr Uned Mân Anafiadau, eich helpu – ewch i’n tudalen we Unedau Mân Anafiadau
  • Os oes gennych fân anaf y tu allan i’r oriau hyn, na all aros tan y diwrnod canlynol, neu, os ydych yn sâl ac yn ansicr pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, ewch i wiriwr symptomau GIG Cymru ar y wefan; neu ffoniwch GIG 111 Cymru
  • Os oes angen cyngor iechyd meddwl arnoch sy’n frys ac nid yn argyfwng, ffoniwch 111 (pwyswch Opsiwn 2) a byddwch yn cael y cyngor a’r cymorth gorau sydd eu hangen arnoch
  • Gallwch fynd at eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol, optometrydd (optegydd) neu ddeintydd yn y ffordd arferol. Y tu allan i oriau, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau drwy ffonio GIG 111 Cymru
  • Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.