Eco-Ysgol o’r haen uchaf yn helpu natur i ffynnu

0
958
Deputy First Minister with pupils and staff at Ysgol Penrhyn coch scaled
Deputy First Minister with pupils and staff at Ysgol Penrhyn coch scaled

Mae ysgol yng Ngheredigion wedi cael ei chydnabod gan y Dirprwy Brif Weinidog am y camau y mae’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Diolch i gyllid a chefnogaeth Llywodraeth Cymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, mae Ysgol Penrhyn-coch ger Aberystwyth wedi creu pwll bywyd gwyllt i gynyddu bioamrywiaeth a chefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau dŵr croyw, gan gynnwys brogaod, madfallod a gweision y neidr – yn ogystal â darparu ffynhonnell yfed i adar yr ardd a mamaliaid fel draenogod yn ystod hafau cynyddol boeth – ochr yn ochr â choed brodorol,  planhigion a llwyni i sicrhau bod gan fyd natur le i ffynnu.

Mae’r ysgol yn Eco-Ysgol Platinwm, y statws uchaf posibl. Mae’r teitl hwn yn cael ei roi i’r rheini sy’n llwyddo i gael y Faner Werdd bedair gwaith – gan ddangos eu hymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cyfranogiad myfyrwyr a chynaliadwyedd.

Eco-ysgolion yw un o’r rhaglenni ysgolion cynaliadwy byd-eang mwyaf – mae’n cysylltu miliynau o blant ar draws 79 o wledydd, gan ddechrau yn yr ystafell ddosbarth ac ehangu i’r gymuned, a chaniatáu i’r genhedlaeth nesaf ddysgu trwy weithredu.

Yng Nghymru, mae 90 y cant o ysgolion ar draws pob Awdurdod Lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Eco-Ysgolion. Nid yw Ceredigion yn eithriad i’r lefel drawiadol hon o gyfranogiad, gyda 21 o ysgolion wedi derbyn gwobr platinwm, gan rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgolion a’u cymuned ehangach.

Mae ysgolion platinwm ymhlith y gorau yn y byd, ac ar ymweliad ag Ysgol Penrhyn-coch i weld y pwll a’r coed newydd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies fod y statws haen uchaf yn esiampl i eraill:

“Mae’r ysgol gynradd hon sydd wedi ennill gwobrau yn helpu i wneud gwahaniaeth i’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymateb i newid hinsawdd. Mae’n esiampl i ysgolion ledled Cymru drwy ddangos yn berffaith sut y gall camau bach helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Rwy’n falch iawn bod y rhaglen Eco-Ysgolion yn datblygu ymwybyddiaeth plant o gynaliadwyedd, gan dynnu sylw disgyblion at le Cymru yn y byd.

“Roedd yn gymaint o bleser ymweld a siarad â rhai o’r myfyrwyr, yn ogystal â’r staff, am y camau hynod gadarnhaol y maen nhw wedi bod yn eu cymryd i helpu ein hamgylchedd.”

Wrth siarad â’r Dirprwy Brif Weinidog, ychwanegodd y plant:

“Ry’ ni’n gobeithio bod brogaod yn mynd i ddod i ddodwy eu grifft, ac wedyn byddwn ni’n cael gweld llwyth o benbyliaid!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here