10.8 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Trenau â cherbydau beiciau yn cael eu cyflwyno i wasanaeth ar lein...

Trenau â cherbydau beiciau yn cael eu cyflwyno i wasanaeth ar lein Calon Cymru

0
411
Heart of Wales Line 153s
Heart of Wales Line 153s

Mae’r cyntaf o chwe thrên sydd wedi’u hadnewyddu’n arbennig er mwyn galluogi teithio â beiciau, wedi cael eu lansio ar lein Calon Cymru.

Fel rhan o’r broses o’u cyflwyno’n raddol, erbyn yr haf bydd cwsmeriaid yn gallu dod â hyd at 12 beic neu e-feic ar y gwasanaeth sy’n rhedeg rhwng Abertawe ac Amwythig.

Tan hynny, dim ond dau feic y gellid eu cymryd ar y trên, yn unol â phob trên TrC arall.

Mae’r trenau hyn yn cael eu cyflwyno er mwyn i bobl allu manteisio ar y cyfleoedd cerdded a beicio gwych yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Powys a Swydd Amwythig.

Byddant hefyd yn cynnig seddi ychwanegol o’u gymharu â’r trenau cerbyd sengl sy’n rhedeg ar y lein ar hyn o bryd.

Mae pob cerbyd beiciau wedi’u dylunio gyda lliwiau a thema arbennig i adlewyrchu’r hyn sydd gan lein Calon Cymru i’w gynnig.

Heart of Wales Line 153s

Dywedodd Rheolwr Prosiect yn Trafnidiaeth Cymru, Matthew Payn, ei fod yn “ddatblygiad newydd a chyffrous i’r llinell reilffordd”.

Dywedodd: “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno ac yn fuddsoddiad bendigedig er mwyn gwneud y gorau o’r hyn sydd gan lein Calon Cymru i’w gynnig.

Erbyn yr haf, pan fydd yr holl drenau’n rhedeg, bydd modd cymryd hyd at 12 beic ar y trên ar gyfer gweithgareddau hamdden neu i gymudo.

“Mae’n enghraifft wych o ailgylchu – defnyddio trên hŷn a’u hadnewyddu at ddiben newydd i roi’r cyfle i fwy o bobl fynd allan a defnyddio eu beiciau i fwynhau rhai o’r ardaloedd gwledig gorau sydd gan Gymru a Lloegr i’w cynnig.

“Mae hwn yn gynnig unigryw i ni ac yn ddatblygiad newydd cyffrous i’r lein a dw i’n gobeithio y gall ein cwsmeriaid i gyd fwynhau’r gwasanaeth yn fuan.”Mae’r cerbydau beic wedi cael eu hadnewyddu gan Chrysalis Rail yn nepo Glandŵr yn Abertawe ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru.

Heart of Wales Line 153s

Mae’r prosiect wedi gweld nifer o seddi yn cael eu tynnu o chwe thrên Dosbarth 153 TrC i wneud lle ar gyfer 10 beic, gyda lle i feiciau tandem hefyd. Bydd y cerbydau’n cynnwys cerbyd dosbarth safonol sy’n cynnwys toiled a lle cwbl hygyrch ar gyfer dau feic arall, sy’n ffurfio’r cyfanswm o 12.

Gan redeg gyda dau gerbyd, bydd y cerbydau beic yn cynnig cyfanswm o 108 sedd, cynnydd o 42 o’i gymharu â’r trenau cerbydau sengl sydd wedi bod yn gweithredu ar y lein cyn hyn.

Wrth i’r trên cyntaf wasanaethu ym mis Chwefror, bydd y pump arall yn ymuno â’r fflyd yn raddol hyd at yr haf er mwyn sicrhau cyflwyniad llwyddiannus.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.