9.4 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Hwb o £31.5 miliwn i drefi a dinasoedd Cymru

Hwb o £31.5 miliwn i drefi a dinasoedd Cymru

0
838
250508 CSHLG YMCA Llanelli scaled
250508 CSHLG YMCA Llanelli scaled

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £31.5m ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru. 

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio gan naw awdurdod lleol i helpu i gyflawni  prosiectau fel Y Storfa yn Abertawe, Marchnad y Frenhines yn y Rhyl a dymchwel Canolfan Hamdden Casnewydd. 

Cadarnhawyd y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2024/25 i £70m trawiadol. 

Mae canol ein trefi a’n dinasoedd yn dod â phobl ynghyd, yn cynnal economïau lleol, ac yn sail i ymdeimlad cymunedau o falchder, treftadaeth a pherthyn. Mae Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn helpu i adfywio a rhoi bywyd newydd i’r mannau hyn.

Ers ei lansio yn 2020, mae’r rhaglen wedi dyfarnu dros £314m mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi gwaith adfywio ledled Cymru. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yn derbyn cyllid gan y rhaglen Trawsnewid Trefi. 

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â nifer o brosiectau adfywio yn Llanelli sydd wedi elwa ar gyllid Trawsnewid Trefi.

Dywedodd: “Mae prosiectau fel yr YMCA neu’r llyfrgell yng nghanol tref Llanelli yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio ein cyllid Trawsnewid Trefi er mwyn mynd ati i ailddefnyddio adeiladau gwag ac adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon, gan adfywio mannau cyhoeddus.

“Mae mor bwysig ein bod yn parhau i greu lleoedd sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol gan ddathlu eu treftadaeth a’u cymeriad unigryw. Yn y modd hwnnw, gallwn gefnogi dyfodol cymunedau gan hefyd hyrwyddo eu gorffennol.” 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – y Cynghorydd Hazel Evans: “Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i’n trefi, drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyllid yr ydym eisoes wedi’i dderbyn wedi galluogi’r Cyngor Sir i ailddatblygu a darparu mwy o safleoedd manwerthu, tai i drigolion lleol a chyfleusterau gwell yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarchod cyllidebau ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Trefi, gyda £40miliwn ar gael ar gyfer 2025/26. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.