Celf wal newydd yn bywiogi ward strôc Bronglais

0
481
Wall art and screens for Ystwyth Ward 2

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu celf wal newydd ar gyfer Ward Ystwyth, ward strôc, adsefydlu ac eiddilwch acíwt, yn Ysbyty Bronglais.

Wall art and screens for Ystwyth Ward 2

Mae’r murluniau o olygfeydd lleol yn dod ag ychydig o harddwch Cymru i’r ward ac yn creu amgylchedd tawelu i gleifion.

Dywedodd Alaw Ciornei, Prif Nyrs y Ward: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion hael rydym wedi’u derbyn sydd wedi ein galluogi i brynu’r gelf wal newydd ar gyfer Ward Ystwyth.

Wall art and screens for Ystwyth Ward

“Bydd y murluniau o fudd enfawr drwy greu ffynhonnell o gysur a hefyd dynnu sylw’r cleifion, yn enwedig cleifion sy’n byw gyda dementia, sy’n profi aflonyddwch hwyliau.

“Gall celf helpu i gynyddu lefelau serotonin a chynyddu llif y gwaed i’r rhan o’r ymennydd sy’n gysylltiedig â phleser. Mae murluniau wedi profi i fod yn therapiwtig, gan feithrin lles meddyliol trwy fanteisio ar seicoleg lliw ac adrodd straeon gweledol i ennyn emosiynau a chreu profiadau trochi.”

Mae’r elusen GIG hefyd wedi ariannu dwy sgrin ôl-dynadwy sy’n cael eu defnyddio i rannu mannau ar y ward.

Dywedodd Claire: “Bydd y sgriniau, sy’n cael eu hargraffu gyda delweddau sy’n gyfeillgar i ddementia, o fudd enfawr drwy greu ffynhonnell o gysur. Bydd y sgriniau’n helpu i amddiffyn cleifion sy’n agored i niwed drwy dynnu eu sylw a helpu i greu mannau diogel.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here