Mae Sioned Williams AS yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau brys i “amddiffyn menywod rhag y canser ataliadwy hwn”
Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros gydraddoldeb, wedi galw heddiw am gyflwyno profion sgrinio cartref HPV yng Nghymru.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DG y bydd y profion hyn yn cael eu cynnig i bobl sydd wedi methu apwyntiadau sgrinio serfigol yn Lloegr.
Y llynedd, dangosodd cynllun peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda y gall hunan-samplu HPV gynyddu’r nifer sy’n cael eu sgrinio’n sylweddol, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydynt yn mynychu apwyntiadau mewn clinig neu sy’n methu â mynychu.
Eto i gyd, er gwaethaf galwadau gan Blaid Cymru ac elusennau canser i gyflwyno profion hunan-sgrinio HPV, nid oes unrhyw gynlluniau wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eto.
Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, ac Aelod Senedd dros Orllewin De Cymru:
“Canser ceg y groth yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod dan 35 oed yng Nghymru o hyd ac mae HPV yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion hyn. Mae nifer y menywod sy’n cael profion ceg y groth traddodiadol yn gostwng, ond gwyddom o’r cynllun peilot fod yn well gan dros hanner ohonynt sgrinio gartref na’r prawf ceg y groth traddodiadol. Mae’n amlwg bod angen gwneud popeth o fewn ein gallu i atal canser ceg y groth.
“Cawsom y cyfle i arwain ar hyn yng Nghymru, ac yn awr rydym ar ei hôl hi. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi pa gamau y mae’n eu cymryd i gyflwyno profion hunan-samplu HPV ac i’n sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn menywod a phobl sydd â cheg y groth, rhag y canser ataliadwy hwn.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













