4.3 C
Llanelli
Friday, February 13, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Grŵp beicio modur yn nodi 25 mlynedd o ddosbarthu llawenydd i blant 

Grŵp beicio modur yn nodi 25 mlynedd o ddosbarthu llawenydd i blant 

0
283
3 Amigos and Dollies 2

Yr hydref hwn, mae grŵp beicio modur o orllewin Cymru yn dathlu carreg filltir wirioneddol nodedig: 25 mlynedd o godi arian, dosbarthu teganau, a haelioni twym-galon i blant sy’n derbyn gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies yn paratoi ar gyfer eu 25ain Taith Deganau flynyddol, sef taith Nadoligaidd yn dosbarthu teganau ac anrhegion i blant sy’n derbyn gofal a thriniaeth dros gyfnod y Nadolig. Mae’r hyn a ddechreuodd fel menter fach gyda dim ond wyth beic wedi tyfu i fod yn fudiad cymunedol sydd wedi cyffwrdd â miloedd o fywydau.

Dros y chwarter canrif diwethaf, mae’r grŵp wedi:

  • Codi tua £300,000
  • Casglu tua 200 o fagiau un dunnell o deganau
  • Teithio bron i 1,500 o filltiroedd yn dosbarthu llawenydd led-led y rhanbarth.

Mae eu digwyddiadau nodweddiadol, sef y Daith Wyau Pasg a’r Daith Deganau, wedi dod yn ddiwrnodau i’w dathlu, gan ddenu cannoedd o feicwyr a chefnogwyr bob blwyddyn. Diolch i ymdrechion The 3 Amigos and Dollies, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y bwrdd iechyd, wedi gallu ariannu gwelliannau i wasanaethau plant sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Un enghraifft ddiweddar oedd rhodd i uwchraddio’r ardal chwarae ar Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili, lle gwnaeth aelodau’r grŵp hyd yn dorchi llewys i helpu i beintio ac adnewyddu’r lle.

Dywedodd Tobi Evans, Gwirfoddolwr ar gyfer Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies: “Pan drefnodd y tri aelod gwreiddiol eu taith deganau gyntaf, roedd wyth beic ac fe godon nhw £80. Ond dros y 25 mlynedd ers hynny, rydym wedi codi mwy o arian ac wedi casglu mwy o deganau nag y gallwn ei gofio.

“Nawr, o ganlyniad i haelioni pawb sydd wedi cyfrannu, rydym yn gallu rhoi miloedd bob blwyddyn gyda channoedd o feiciau yn ymuno â ni. Mae pobl mor hael, ac rydym yn gwybod mai diolch iddyn nhw yw ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon.”

Dywedodd Eleanor Marks, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o ddathlu’r garreg filltir hon gyda Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies. Mae eu hymroddiad, eu tosturi, a’u hysbryd cymunedol wedi cael effaith barhaol ar fywydau plant a theuluoedd led-led ein rhanbarth. Am chwarter canrif, maent wedi mynd yr ail filltir i ddod â chysur a llawenydd i’r rhai sydd yn yr ysbyty, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth y maent wedi’i wneud.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Allwn ni ddim diolch digon i Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies. Mae eu teithiau wedi dod â gwên i nifer dirifedi o blant ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Boed yn deganau, wyau Pasg neu gronfeydd hanfodol, maent wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Diolch!”

Os hoffech chi gefnogi 25ain Taith Deganau Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies, dyma ddyddiadau casglu’r teganau:

  • 18 Hydref: Home Bargains, Doc Penfro
  • 8 Tachwedd: Asda, Doc Penfro
  • 15 Tachwedd: Morrisons, Hwlffordd
  • 22 Tachwedd: Tesco, Hwlffordd

Dyma ble y gallwch ddod â’ch anrhegion:

  • Hwlffordd: Boots, Tesco
  • Doc Penfro: Asda, Tesco
  • Aberdaugleddau: Mabon Gifts, Pebbles
  • Penfro: Foundry House
  • Cilgeti: Co-op

I ddysgu mwy am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch gefnogi cleifion a staff y GIG yn lleol, trowch at: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.