Cymerodd y tîm arlwyo yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ran mewn cyfres o ddigwyddiadau codi arian a chodi £800 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi ac ward Bryngofal er cof am ei chydweithiwr annwyl Karen Hartnell.
Ymunodd Karen â thîm blaen y tŷ yn 2017 ond yn anffodus bu farw ym mis Tachwedd 2022.

Dywedodd Bethan John, Goruchwyliwr y Gegin: “Fe wnaethon ni gwblhau sawl her i godi cymaint o arian ag y gallen ni. Cwblhaodd Mischa, Bethan, Macy a minnau’r Walrus Dip ar Ddydd San Steffan 2023. Cwblhaodd Mischa a Macy ras 10k Llanelli ym mis Chwefror 2024. A’r her olaf oedd Velocity, sef y llinell sip gyflymaf yn y byd, yng Ngogledd Cymru, a gwblhawyd gan Mischa, Bethan a Caitlin ym mis Mawrth 2024.
“Fe wnaethon ni i gyd godi arian yn unigol ar gyfer pob her y tu allan i’r gwaith. Roedd gennym ni hefyd gwpl o flychau casglu wedi’u gosod yn siop yr ysbyty ac yn adran arlwyo er mwyn i’r gymuned ehangach gyfrannu hefyd i helpu i gyrraedd ein targed.
“Teimlai tîm Arlwyo Ysbyty Tywysog Philip yr angen i ddangos cefnogaeth i wasanaethau a oedd yn cefnogi ein staff yn ystod cyfnod o salwch. Felly, dewiswyd yr Uned Ddydd Cemotherapi ac Uned Iechyd Meddwl Bryngofal er mwyn mynegi ein gwerthfawrogiad.

“Hoffem ddiolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda am eu cefnogaeth drwy gydol y broses ac i’r staff a’r cyhoedd am eu haelioni a’u cefnogaeth.”
Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i’r tîm arlwyo am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £400.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i dîm arlwyo Ysbyty Tywysog Philip am ddod ynghyd i godi arian er cof am eu cydweithiwr annwyl, Karen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am ragor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















