7.3 C
Llanelli
Saturday, January 31, 2026
Home Aberystwyth Y Brifysgol yn croesawu cefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith...

Y Brifysgol yn croesawu cefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith i’r blaned Mawrth

0
423
Rover, Aberystwyth University

Mae’r tîm ExoMars ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi croesawu cefnogaeth o’r newydd gan Asiantaeth Ofod y DU ar gyfer taith y crwydryn Rosalind Franklin, prosiect blaenllaw a fydd yn gweld lansiad crwydryn cyntaf Ewrop i’r blaned Mawrth yn 2028.

Wedi’i amserlennu i lanio ar y Blaned Goch yn 2030, bydd y crwydryn yn drilio hyd at ddau fetr o dan wyneb y blaned Mawrth i chwilio am arwyddion o fywyd yn y gorffennol neu’r presennol, gallu na chafwyd ei debyg mewn unrhyw grwydryn blaenorol.

Cadarnhaodd Asiantaeth Ofod y DU becyn buddsoddi o £1.7 biliwn mewn rhaglenni Asiantaeth Ofod Ewrop yn y Cyngor Gweinidogaethol diweddar yn Bremen, gan sicrhau cefnogaeth barhaus i deithiau proffil uchel gan gynnwys y crwydryn Rosalind Franklin.

Wedi’i adeiladu yn y DU gan Airbus, bydd y crwydryn yn cario offer arloesol a ddatblygwyd gan brifysgolion a thimau ymchwil ym Mhrydain, gan gynnwys Enfys, sbectromedr is-goch Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Enfys yn gweithio ochr yn ochr â system ddelweddu PanCam y crwydryn i nodi targedau mwynau a nodi’r safleoedd drilio gorau posibl. Bydd y samplau a gesglir yn cael eu dadansoddi gan labordy ar y crwydryn sydd wedi’i gynllunio i ganfod biofarcwyr a chyfansoddion organig – dangosyddion posibl o fywyd yn y gorffennol neu’r presennol.

Dywedodd Dr Helen Miles, Arweinydd Meddalwedd Gweithrediadau ar gyfer Enfys ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae rôl Prifysgol Aberystwyth yn nhaith y crwydryn Rosalind Franklin ar y blaned Mawrth yn adeiladu ar ddegawdau o ymchwil arloesol ym maes gwyddor y gofod a roboteg. Mae ymrwymiad newydd Asiantaeth Ofod y DU i’r prosiect hwn yn newyddion gwych – nid yn unig ar gyfer y daith, ond ar gyfer dyfodol archwilio planedau.

“Er bod sawl crwydryn wedi cyrraedd y blaned Mawrth, bydd y daith hon yn caniatáu inni archwilio’r blaned mewn ffyrdd nas gwnaethpwyd erioed o’r blaen.  Am y tro cyntaf, byddwn yn drilio’n ddwfn o dan wyneb y blaned Mawrth i chwilio am arwyddion o fywyd, gan ddatgloi cliwiau a allai drawsnewid ein dealltwriaeth o hanes y blaned a’i photensial i gynnal bywyd.

“Mae bod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu’r offer hanfodol hyn yn fraint, ac rydym yn llawn cyffro i weld gwyddoniaeth Cymru yn cyfrannu at un o deithiau planedol mwyaf uchelgeisiol ein hoes.”

Arweinir y gwaith o ddatblygu a phrofi Enfys gan Brifysgol Aberystwyth, ar y cyd â phartneriaid gan gynnwys Labordy Gwyddor Gofod Mullard (MSSL) yn UCL, Labordy Rutherford Appleton STFC a Qioptiq Ltd.

Rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb am y prosiect i Brifysgol Aberystwyth ar ôl diddymu’r cydweithrediad â Roscosmos yn Rwsia yn sgil yr ymosodiad ar yr Wcráin yn 2022.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.