Plaid Cymru yn cadarnhau gwrthwynebiad i beilonau cyn etholiad y Senedd

2
337
cefin campbell ms
cefin campbell ms

Pe bai Plaid Cymru yn ennill yr etholiad i’r Senedd fis Mai, bydden nhw’n defnyddio eu grym i sefydlu “rhagdyb cryf o blaid tanddaearu” a defnydd o bolion pren lle byddai angen, wrth i Gymru drosglwyddo at system ynni fodern, gwyrdd, gan wahardd peilonau latis dur ar gyfer unrhyw linell o 132kv neu is.

Noda’r Blaid hefyd mai un o flaenoriaethau cyntaf llywodraeth Plaid Cymru fyddai llunio Strategaeth Ynni Cenedlaethol ac i ‘gadw ynni ac elw a grëwyd yng Nghymru yn ein cymunedau’.

Yn ogystal â hynny, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn:

  • Gofalu bod ceisiadau fydd ag effaith gronnus (gan gynnwys y seilwaith cysylltiedig) ar draws pob Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) am ffermydd gwynt mawr ar y tir yn cael eu rheoli a’u hystyried yn llawn.
  • Mynnu isafswm cyfran o berchenogaeth leol neu gymunedol o rhwng 15 a 25%, sy’n cyfateb i’r model budd-lleol, taliad cyfoeth sofran, neu ddull cyfatebol o gael manteision i’r gymuned i bob prosiect dros 10 MW, fel un o amodau allweddol caniatâd.
  • Rhoi cymhellion neu gefnogaeth ariannol arall i ddatblygu ynni dan arweiniad ac ym mherchenogaeth y gymuned neu Lywodraeth Cymru.
  • Ymestyn datblygiad a ganiateir i roi mwy o hyblygrwydd i aelwydydd, ffermydd a busnesau i osod tyrbeini gwynt bychain, paneli solar bychan ar doeau ac ar y ddaear, batris a phympiau gwres, tra ar yr un pryd yn gwarchod mwynderau, treftadaeth a diogelwch.
  • Diwygio’r rheoliadau perthnasol fel bod pob tŷ annedd newydd a datblygiadau ailwampio mawr yn gosod solar ar y to fydd yn cwrdd â galw blynyddol yr eiddo am ynni oni ellir dangos yn glir nad yw hyn yn ymarferol.
  • Cyhoeddi Datganiad Cynllunio Gweinidogol Interim yn syth fydd yn sefydlu rhagdyb clir o blaid rhoi llinellau 11-132 kV danddaear yng Nghymru, gyda dewisiadau amgen uwchben yn cael eu caniatáu yn unig lle gosodir llinellau uwchben ar bolion pren isel neu seilwaith cyfatebol llai ymyrrol. Yn achos llinellau 11-132 kV, ni chaniateir peilonau latis dur mwy.

Dywedodd Cefin Campbell, yr ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad y Senedd flwyddyn nesaf: 

“Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru ar flaen y gad yn cefnogi ein cymunedau ac yn gweithio i gadw ynni ac elw a grëwyd yng Nghymru yn ein cymunedau, fel ein bod yn symud i ffwrdd o fodel economi echdynnol sydd wedi bod mor niweidiol i Gymru dros y canrifoedd’.

“Bydd ein safbwynt yn eithaf clir os cawn y fraint o gael ein hethol fis Mai – ni fyddwn yn caniatáu i beilonau gael eu codi ar hyd ein dyffrynnoedd i blesio cwmnïau cyfalafol, a rhaid i unrhyw brosiect ynni ddigwydd gyda chyd-syniad cymunedau ac yn ddelfrydol dan berchnogaeth leol neu berchnogaeth Llywodraeth Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

2 COMMENTS

  1. Mae’n ddiddorol gweld Plaid Cymru yn cymryd stance mor glir ar fater y peilonau,yn enwedig wrth i’r drafodaeth am ynni adnewyddadwy a seilwaith ddod yn fwy brys. Bydd yn werth gweld sut mae’r safbwynt yma’n chwarae allan wrth i fwy o gymunedau geisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng datblygu ynni glân a diogelu tirweddau lleol. Mae’r sgwrs yma’n sicr ddim ar ben eto.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here