10 C
Llanelli
Monday, February 23, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Unedau busnes cynaliadwy ar gael mewn safleoedd masnachol gwerth £15m yn Sir...

Unedau busnes cynaliadwy ar gael mewn safleoedd masnachol gwerth £15m yn Sir Gaerfyrddin

0
556
Parc Gelli Werdd 2 cropped

Mae unedau busnes cynaliadwy ar gael i’w lesio mewn dau gynllun eiddo masnachol newydd yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn £15m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Parc Gelli Werdd, sy’n cynnwys 26 o weithdai a swyddfeydd o’r radd flaenaf ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands, yn dangos galw cryf yn y farchnad am adeiladau busnes carbon isel.

Mae’r datblygiad yn cynnwys system arloesol sy’n caniatáu i denantiaid reoli’r defnydd o drydan gan arbed arian, ac mae’n cynnwys inswleiddio effeithiol a phaneli solar i leihau costau rhedeg yr adeiladau gan ddod â budd i’r amgylchedd hefyd.

Ar hyn o bryd mae tua 70% o’r unedau wedi’u gosod, ac rydyn ni wrthi’n ystyried nifer o ymholiadau i rentu’r rhai sy’n weddill.

Hefyd, mae pum uned ddiwydiannol ynni-effeithlon wrthi’n cael eu hadeiladu yn Ystâd Ddiwydiannol Beechwood, yn Llandeilo.

Disgwylir i’r cynllun gael ei gwblhau ym mis Mehefin, ac mae’n cael ei gynllunio i gyrraedd ‘targed carbon Sero Net ar waith’ a bydd yn darparu pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae busnesau’n dweud wrthym bod cael gafael ar le modern ar gyfer eu busnesau yn hanfodol iddyn nhw allu tyfu ac ehangu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod mwy o adeiladau masnachol ar gael i fusnesau ym mhob rhan o Gymru.

“Mae’r ddau ddatblygiad hwn yn Sir Gâr yn cynnig safonau amgylcheddol eithriadol ac yn lleihau costau gweithredu’r busnesau fydd yn eu meddiannu, leihau eu heffaith amgylcheddol hefyd.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans:

“Diolch i’r cydweithio â Llywodraeth Cymru, bydd yr unedau masnachol ynni-effeithlon hyn yn lleoedd gwych a hyblyg i fusnesau yn Sir Gâr ffynnu.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.