Liz Saville Roberts i annerch tyrfaoedd yng ngorymdaith y Together Alliance yn erbyn yr asgell dde
Heddiw (Dydd Sadwrn 28 Mawrth) bydd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS yn traddodi araith yn ystod ‘Gorymdaith yn erbyn yr Asgell Dde’ y Together Alliance yn Llundain.
Mae’r Together Alliance yn glymblaid eang o sefydliadau, undebau llafur, pleidiau gwleidyddol, grwpiau cymunedol a ffigurau cyhoeddus a ffurfiwyd i wrthwynebu cynnydd yr asgell dde eithafol.
Bydd yr orymdaith yn digwydd yng nghanol Llundain, gan orffen gyda rali o areithiau a cherddoriaeth. Mae’r trefnwyr yn disgwyl degau o filoedd o bobl i fynychu.
Bydd Liz Saville Roberts AS yn traddodi araith ac yn cynrychioli Plaid Cymru. Dywedodd Ms Saville Roberts, wrth i wleidyddiaeth asgell dde eithafol ennill tir, fod Plaid Cymru wedi dangos yng Nghymru bod modd ei “herio a’i threchu” drwy gadw at ein egwyddorion. Daw hyn yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol Plaid Cymru yn isetholiad Caerffili, lle curon nhw Reform gyda mwyafrif o 3,848 o bleidleisiau ar ôl cwymp yn y gefnogaeth i Lafur.
Mae’r pôl YouGov diweddaraf ar gyfer etholiad y Senedd, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn awgrymu y gallai canlyniad yr isetholiad gael ei efelychu ledled Cymru ym mis Mai, gyda Plaid Cymru ar y blaen mewn ras dau geffyl gyda Reform UK. Dywedodd Ms Saville Roberts fod isetholiad Caerffili wedi cadarnhau mai “dim ond Plaid Cymru all atal Reform” yng Nghymru.
Wrth siarad cyn y digwyddiad heddiw, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
“Ar adeg pan fo gwleidyddiaeth asgell dde eithafol yn ennill tir, rydym wedi dangos yng Nghymru bod modd ei herio a’i threchu drwy gadw at ein egwyddorion.
“Gyda etholiad y Senedd ym mis Mai ar y gorwel, mae Plaid Cymru yn falch o sefyll dros ddynoliaeth a chynhwysiant. Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth a chasineb gwrth-fudwyr ym mhob ffurf.
“Cadarnhaodd isetholiad Caerffili bod modd atal Reform yng Nghymru os bydd blaengarwyr yn uno y tu ôl i Plaid Cymru. Ym mis Mai, mae gennym gyfle i efelychu hynny ledled Cymru.
“Rwy’n falch heddiw o ymuno â blaengarwyr o bob cwr o Senedd San Steffan, ynghyd ag o gymdeithas yn ehangach i ddweud mai ‘digon yw digon’ a galw allan y celwyddau sy’n cael eu rhannu gan yr asgell dde eithafol.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















