Ym mis Awst 2024, cafodd Ceri ei chludo i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn sydyn gyda pancreatitis difrifol, gan arwain at chwe wythnos yn yr ysbyty i ffwrdd o’i theulu a’i babi, a oedd ond yn naw mis oed ar y pryd. Treuliodd Ceri amser hefyd yn yr Uned Gofal Dwys ac ar Ward Rhiannon.
Dywedodd Ceri: “Penderfynais redeg Hanner Marathon Caerdydd i herio fy hun ac i roi rhywbeth yn ôl i Ysbyty Bronglais. Roedd angen tri llawdriniaeth arnaf i gyd a’m gadawodd mor wan a prin yn gallu cerdded, roedd rhedeg yn rywbeth mawr!
“Dyma pam roedd angen rhywbeth arnaf i herio fy hun a gweithio tuag ato. Yn araf, llwyddais i gryfhau a gwella fy iechyd a mwynhau pob eiliad o redeg Hanner Marathon Caerdydd i’r tîm mwyaf anhygoel o bobl a’m gwnaeth i wella eto ac i fynd adref at fy nheulu.
“Cefais y gofal mwyaf anhygoel gan Ward Rhiannon, yr Uned Gofal Dwys ac Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Bronglais a phenderfynais rannu fy swm codi arian rhwng y tair ward hyn. Rhoddodd pob ward y gofal mwyaf rhagorol i mi.
“Roeddwn i’n ffodus i gael cymaint o roddion caredig a hael ar fy nhudalen JustGiving – fe helpodd yn fawr gyda’r hyfforddiant. Mwynheais bopeth am y profiad hwn. Hoffwn ddiolch i bawb yn Ysbyty Bronglais a ofalodd mor dda amdanaf.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i’r anhygoel Ceri Bonner am gwblhau Hanner Marathon Caerdydd. Mae ei chryfder, ei phenderfyniad a’i charedigrwydd wedi helpu i godi swm gwych ar gyfer Ward Rhiannon, yr Uned Gofal Dwys a’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Ceri, mae dy wydnwch yn ein hysbrydoli ni i gyd – diolch i ti am wneud gwahaniaeth mor fawr i’r gwasanaethau hyn.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















