20.7 C
Llanelli
Saturday, August 8, 2026
Home Food & Drink Gwahoddiad i Bobl Ifanc i Gael Mynediad Unigryw i Fynd y tu...

Gwahoddiad i Bobl Ifanc i Gael Mynediad Unigryw i Fynd y tu ôl i’r Llenni yn Sioe Frenhinol Cymru

0
78
Lolfa Fusnes cropped

Mae pobl ifanc sydd â diddordeb yn y diwydiant bwyd a diod yn cael cynnig cyfle unigryw i fynd y tu ôl i’r llenni yn un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, sef Sioe Frenhinol Cymru. 

Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn gwahodd Mynegiannau o Ddiddordeb gan unigolion 18 oed a throsodd i gymryd rhan mewn profiad unigryw, trochol o fewn Lolfa Fusnes ac Arddangosfa Cynnyrch fawreddog Adran Fwyd Llywodraeth Cymru ar lawr cyntaf y Neuadd Fwyd.   

Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru, yw lle mae prynwyr bwyd a diod yn cwrdd â chyflenwyr ac yn archwilio cynhyrchion newydd. Gyda dros 2,000 o gynhyrchion gan fwy na 300 o fusnesau Cymru i’w gweld, mae’r mynediad prin hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut mae’r diwydiant yn gweithredu ar lefel fasnachol.   

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o brofiad tywys dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys y cyfle i gwrdd â thimau prynu, deall sut mae cynhyrchion yn cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd, a chael gwybodaeth uniongyrchol am brosesau gwerthu a negodi. Bydd cyfranogwyr hefyd yn teithio o amgylch y Neuadd Fwyd brysur, yn cwrdd â chynhyrchwyr arloesol, ac yn profi amgylchedd cyflym masnachu o’r tu ôl i stondin.  

Dywedodd Gweinidog Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn gonglfaen i’n sector bwyd a diod, gan arddangos y gorau o gynnyrch a thalent Cymru. Mae’r cyfle cyffrous hwn yn rhoi cipolwg prin y tu ôl i’r llenni, i bobl ifanc ar sut mae ein diwydiant yn gweithredu ac yn ffynnu ar lefel fasnachol. 

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf i yrfaoedd gwerth chweil, ac mae profiadau fel hyn yn helpu i feithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau gwerthfawr. Byddwn yn annog yn gryf unrhyw un sydd â diddordeb mewn bwyd a diod i wneud cais a manteisio ar y mewnwelediad unigryw hwn i sector fywiog sy’n tyfu, ac sydd mor bwysig i’n heconomi.”   

Mae’r cyfle hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd o fewn gwerthu, marchnata, manwerthu, entrepreneuriaeth, a’r sector bwyd a diod ehangach, gan ddarparu ffordd ymarferol a diddorol o ddatblygu gwybodaeth, hyder, a rhwydweithiau proffesiynol.   

Bydd y profiad yn digwydd ar un diwrnod yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf a bydd yn para tua thair awr. Bydd cyfranogwyr yn derbyn tocyn mynediad i’r Sioe am ddim, gyda chyfraniad tuag at gostau teithio hefyd ar gael. 

Dywedodd Ifan Davies, cyn-gyfranogwr y cyfle hwn: 

“Roedd cael y cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni yn Sioe Frenhinol Cymru yn gyfle mor wych. Rhoddodd cael mynediad i Lolfa Fusnes ac Arddangosfa Cynnyrch Adran Bwyd Llywodraeth Cymru i weld sut mae prynwyr a chynhyrchwyr yn gweithio gyda’i gilydd, bersbectif newydd i mi ar sut mae cynnyrch yn cyrraedd y silffoedd. Teimlais fel petawn i wedi ennill cyfle euraidd pan gefais fy nhywys o amgylch y Lolfa Fusnes a’r Arddangosfa Cynnyrch.  

Yn ogystal â chael sgwrs gyda chriw o weithwyr proffesiynol busnes gwych o Gymru, cefais feithrin hyder, cysylltiadau gwerthfawr, a gwell dealltwriaeth o’r gwahanol gyfleoedd gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru.”   

Mae lleoedd yn gyfyngedig er mwyn sicrhau profiad trochol o ansawdd uchel, a disgwylir i ddiddordeb fod yn uchel. Nid yw cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb yn gwarantu lle, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei gydnabod.   

Anogir y rhai sydd â diddordeb i wneud cais erbyn dydd Llun 29 Mehefin drwy lenwi’r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ar-lein neu gysylltu ag emily.rees@mentera.cymru am ragor o wybodaeth.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.