Mae Kerrie Farrar wedi’i phenodi i Gadair Germinal mewn Bridio Planhigion Trosiannol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae Farrar yn arwain Rhaglen Strategol yr Athrofa ar Gnydau Gwydn, sy’n cynnwys ymchwil ar rhygwellt lluosflwydd, meillion coch a gwyn, ceirch a Miscanthus. Caiff y rhaglen ei chyllido’n strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol UKRO (y BBSRC).
Yn y rôl athrawol newydd hon, bydd yn nodi ac yn optimeiddio meysydd ymchwil a thechnolegau y gellir eu defnyddio mewn rhaglenni bridio planhigion i gefnogi’r bartneriaeth gyda Germinal Horizon, sef is-adran ymchwil a datblygu cynnyrch Grŵp Openfolde, sy’n noddi’r rôl yma.
Mae IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn bartner masnachol Openfolde, a elwid gynt yn Germinal Holdings, ers bron i 40 mlynedd.
Dywedodd Farrar: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â rôl Cadair Germinal mewn Bridio Planhigion Trosiannol ac i barhau â’m gwaith gan gyfrannu at y traddodiad hir o fridio cnydau porthiant yn Aberystwyth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Germinal Horizon i droi ymchwil strategol IBERS yn fathau o gnydau gwydn, gan gefnogi ffermwyr ac amaethyddiaeth gynaliadwy yn ehangach.”
Meddai’r Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS): “Llongyfarchiadau gwresog i Kerrie ar ei phenodiad. Mae gan IBERS a Germinal Horizon bartneriaeth hirsefydlog sy’n canolbwyntio ar ddatblygu mathau newydd a gwell o gnydau porthiant, yn seiliedig ar ymchwil arloesol, ac mae’r penodiad hwn yn ail-gadarnhau ein hymrwymiad i weld yr wyddoniaeth ddiweddaraf yn cael ei chymhwyso i fridio planhigion. Mae Cadair Germinal yn chwarae rhan hanfodol wrth drosglwyddo’r ymchwil hon o’r labordy i’r maes, gan sicrhau effaith go iawn ar ffermio cynaliadwy, cynhyrchiol.”
Mae gwaith IBERS yn adeiladu ar fwy na chanrif o arbenigedd mewn bridio planhigion yn Aberystwyth, ac mae’n darparu gallu cenedlaethol mewn gwyddoniaeth glaswelltir a bridio planhigion, gan gyfrannu at ddiogelu cyflenwadau bwyd, cyrraedd amcanion cynaliadwyedd a chyflawni targedau newid yn yr hinsawdd.
Mae cyfleusterau IBERS yn cynnwys y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, cyfleuster peilot bioburo uwch a banc hadau unigryw sy’n diogelu un o’r casgliadau mwyaf yn y byd o hadau glaswellt, meillion, ceirch a miscanthus.
Dywedodd Grace Welling, Rheolwr Datblygu Strategol Germinal Horizon: “Trwy gydol ei gyrfa ymchwil, mae Kerrie wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol ym maes bridio planhigion a genomeg cnydau sy’n rhychwantu darganfyddiadau sylfaenol hyd at fridio trosiannol a datblygu mathau sydd â photensial i fod yn gnydau hyfyw.
“Bydd ei gwybodaeth a’i harbenigedd mewn ffenomeg planhigion a genomeg, gan gynnwys datblygiadau mewn offer technoleg bridio planhigion, yn ein helpu i gysylltu amrywiadau genetig â gwahaniaethau mewn perfformiad yn y maes er mwyn creu mathau gwell sy’n cael effaith yn y byd go iawn.”
Bydd Farrar yn cychwyn ar ei swydd newydd ar 1 Gorffennaf 2026.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |


















