16.8 C
Llanelli
Monday, June 29, 2026
Home Farming Trowch syniad eich grŵp yn realiti gyda chyfle newydd am gyllid gan...

Trowch syniad eich grŵp yn realiti gyda chyfle newydd am gyllid gan Cyswllt Ffermio

0
74
Prosiectau Grwpiau Trafod Ein Ffermydd
Mae ffermwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i droi eu syniadau’n gamau gweithredu ymarferol trwy gyfle newydd am gyllid a luniwyd i gefnogi arloesedd cydweithredol ar y fferm.

Mae Cyswllt Ffermio yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei fenter Rhwydwaith Ein Ffermydd, gan wahodd Grwpiau Trafod, grwpiau Agrisgôp, a grwpiau trafod y tu hwnt i Cyswllt Ffermio i ymgeisio am gyllid i gyflawni arbrofion tymor byr dan arweiniad ffermwyr. Nod y cynllun yw dod â ffermwyr ynghyd i fynd i’r afael â heriau cyffredin, profi dulliau newydd, a chreu canlyniadau gwirioneddol a mesuradwy a fydd o fudd i’r busnesau uniongyrchol a’r sector amaeth ehangach.

Gyda chyllid o hyd at £12,000 (ac eithrio TAW) ar gael fesul prosiect grŵp – heb ofyniad i sicrhau cyllid cyfatebol – mae’r rhaglen yn darparu cyfle gwerthfawr i ffermwyr weithio ar y cyd ar syniadau penodol, gan leihau risg a chyflymu cynnydd.
Mae prosiectau grwpiau trafod blaenorol ledled Cymru eisoes wedi dangos grym cydweithio. O wella iechyd anifeiliaid ac effeithlonrwydd glaswelltir i dreialu arferion carbon isel a gwella bioamrywiaeth, mae ffermwyr wedi cydweithio i edrych ar atebion sy’n sicrhau buddion diriaethol ar y fferm.

Mae canlyniadau prosiectau blaenorol yn amlygu effaith cydweithio o’r fath. Gwelodd un grŵp llaeth ostyngiad dramatig yn nifer yr achosion o fastitis, gan arwain at arbedion ariannol posibl o fwy na £130,000 ar un fferm. Mewn enghraifft arall, adroddodd ffermwyr a fu’n cymryd rhan mewn prosiectau rheoli llyngyr yr iau ddealltwriaeth lawer gwell o’r risg o glefyd, gyda phob cyfranogwr yn datblygu dealltwriaeth sy’n parhau i lywio penderfyniadau rheoli at y dyfodol. Mewn prosiect arall, arweiniodd y defnydd o offer sganio uwchsain thorasig at fewnwelediadau gwerthfawr o ran iechyd lloi a pherfformiad twf, gan arwain at reolaeth a defnydd mwy gwybodus o feddyginiaethau gwrthficrobaidd.

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn agos gyda’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan gynorthywo ffermwyr i wella cynhyrchiant, gwytnwch a pherfformiad amgylcheddol trwy ddulliau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor ar gyfer grwpiau sefydledig ar draws pob sector amaethyddol a thema. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i bob prosiect gynnwys o leiaf pum ffermwr, a dangos cydweithrediad clir a gweithredol rhwng aelodau. Dylai grwpiau sy’n ymgeisio hefyd allu dangos eu bod eisoes wedi sefydlu ac yn cwrdd yn rheolaidd (o leiaf 4 cyfarfod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac o leiaf 4 cyfarfod wedi’u cynllunio drwy gydol oes y prosiect), gan sicrhau bod prosiectau wedi’u seilio ar sylfeini cadarn o ddysgu ac ymgysylltu ar y cyd.

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am gynigion clir, wedi’u cynllunio’n dda, sy’n dangos cydweithrediad cadarn, gwerth am arian, a’r potensial i sicrhau effaith ystyrlon – nid yn unig ar gyfer y ffermydd sy’n cymryd rhan, ond hefyd ar gyfer y diwydiant ehangach.

Gellir defnyddio’r cyllid i gynorthwyo gydag ystod o weithgareddau sy’n hanfodol er mwyn cyflawni arbrofion llwyddiannus ar y fferm. Mae hyn yn cynnwys mynediad at arbenigedd megis ymgynghorwyr neu wyddonwyr, llogi offer ar gyfer casglu a dadansoddi data, samplu a chreu adroddiadau technegol, a chyfathrebu canfyddiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu’n ehangach.

Mae’r cyfnod ymgeisio nawr ar agor, ac yn dod i ben am hanner nos, nos Lun 3 Awst 2026. Cynhelir gweminar hefyd ar 8 Gorffennaf 2026 (8:15-9:00am) i ddarparu arweiniad ac i helpu darpar ymgeiswyr wneud y gorau o’r cyfle, gyda chyfranogwyr yn gallu cofrestru ymlaen llaw ar wefan Cyswllt Ffermio.

Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan arweinydd y grŵp trafod ar ran ei aelodau, gyda chytundeb llawn ar draws y grŵp, a dylai’r cais gynnwys manylion pob aelod. Mae’n rhaid i bob ffermwr sy’n cymryd rhan fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) er mwyn i ni allu ystyried y cais.

I grwpiau ffermwyr sy’n chwilio am gyfle i arloesi, cydweithio a sbarduno newid ystyrlon ar y fferm, mae’r cyfle diweddaraf hwn yn cynnig llwybr ymarferol i droi syniadau’n realiti – a sicrhau canlyniadau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i giât y fferm.

Am ragor o fanylion ac i wneud cais, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here