Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru – Cymdeithas Amaethyddiaeth a Helwyr y Siroedd Unedig 2025, i berson a farnwyd i fod wedi gwneud Cyfraniad Rhagorol i Amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Enillwyd y wobr y llynedd gan y ffermwr adnabyddus o Lannon, Joyce Owens, gan gydnabod ei gwaith yn cefnogi’r sector moch dros Gymru a’r DU, ynghyd â’i gwaith i Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghaerfyrddin dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys sylfaenydd Castell Howell Foods, Brian Jones (2017), Cyflwynydd Ffermio, Meinir Howells (2018), a Llywydd presennol Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman (2019).
Cyflwynir y wobr yn nigwyddiad mawreddog Noswyl Sioe Laeth Cymru Undeb Amaethwyr Cymru ar ddydd Llun 27 Hydref 2025, a noddir eleni gan NatWest Cymru.
Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.
Wrth agor y broses enwebu, dywedodd Swyddog Gweithredol Sir Caerfyrddin, David Waters:
“Cymuned ffermio Sir Gâr yw asgwrn cefn gwead cymdeithasol ac economaidd ein sir. Mae’r wobr hon yn gyfle gwych i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad unigolyn sydd wedi ymroi’n ddiflino i hyrwyddo’r diwydiant hanfodol hwn a chefnogi ei gyd-ffermwyr.”
Ychwanegodd Sian Thomas, Cadeirydd Cymdeithas yr Helwyr a’r Siroedd Unedig:
“Mae Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig yn falch o barhau â’n partneriaeth gyda Undeb Amaethwyr Cymru wrth anrhydeddu unigolion nodedig sy’n asgwrn cefn ein cymuned wledig. Mae’r wobr hon yn dyst i’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n gyrru’r sector amaethyddol yn Sir Gâr ac edrychwn ymlaen at ddathlu cyfraniad unigolyn arall sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n diwydiant.”
Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr neu ddyfyniad yn rhoi manylion llawn am waith a chyfraniad yr enwebai a dylid eu hanfon drwy e-bost at swyddfa FUW Caerfyrddin sef ca********@*****rg.ukneu ei anfon drwy’r post at FUW Caerfyrddin, Swyddfa 10, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin, SA31 1LP a hynny erbyn diwedd y dydd, Gwener 10 Hydref 2025.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |















