| Mae ffermwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i droi eu syniadau’n gamau gweithredu ymarferol trwy gyfle newydd am gyllid a luniwyd i gefnogi arloesedd cydweithredol ar y fferm. |
Mae Cyswllt Ffermio yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei fenter Rhwydwaith Ein Ffermydd, gan wahodd Grwpiau Trafod, grwpiau Agrisgôp, a grwpiau trafod y tu hwnt i Cyswllt Ffermio i ymgeisio am gyllid i gyflawni arbrofion tymor byr dan arweiniad ffermwyr. Nod y cynllun yw dod â ffermwyr ynghyd i fynd i’r afael â heriau cyffredin, profi dulliau newydd, a chreu canlyniadau gwirioneddol a mesuradwy a fydd o fudd i’r busnesau uniongyrchol a’r sector amaeth ehangach. Gyda chyllid o hyd at £12,000 (ac eithrio TAW) ar gael fesul prosiect grŵp – heb ofyniad i sicrhau cyllid cyfatebol – mae’r rhaglen yn darparu cyfle gwerthfawr i ffermwyr weithio ar y cyd ar syniadau penodol, gan leihau risg a chyflymu cynnydd. Mae prosiectau grwpiau trafod blaenorol ledled Cymru eisoes wedi dangos grym cydweithio. O wella iechyd anifeiliaid ac effeithlonrwydd glaswelltir i dreialu arferion carbon isel a gwella bioamrywiaeth, mae ffermwyr wedi cydweithio i edrych ar atebion sy’n sicrhau buddion diriaethol ar y fferm. Mae canlyniadau prosiectau blaenorol yn amlygu effaith cydweithio o’r fath. Gwelodd un grŵp llaeth ostyngiad dramatig yn nifer yr achosion o fastitis, gan arwain at arbedion ariannol posibl o fwy na £130,000 ar un fferm. Mewn enghraifft arall, adroddodd ffermwyr a fu’n cymryd rhan mewn prosiectau rheoli llyngyr yr iau ddealltwriaeth lawer gwell o’r risg o glefyd, gyda phob cyfranogwr yn datblygu dealltwriaeth sy’n parhau i lywio penderfyniadau rheoli at y dyfodol. Mewn prosiect arall, arweiniodd y defnydd o offer sganio uwchsain thorasig at fewnwelediadau gwerthfawr o ran iechyd lloi a pherfformiad twf, gan arwain at reolaeth a defnydd mwy gwybodus o feddyginiaethau gwrthficrobaidd. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn agos gyda’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan gynorthywo ffermwyr i wella cynhyrchiant, gwytnwch a pherfformiad amgylcheddol trwy ddulliau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor ar gyfer grwpiau sefydledig ar draws pob sector amaethyddol a thema. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i bob prosiect gynnwys o leiaf pum ffermwr, a dangos cydweithrediad clir a gweithredol rhwng aelodau. Dylai grwpiau sy’n ymgeisio hefyd allu dangos eu bod eisoes wedi sefydlu ac yn cwrdd yn rheolaidd (o leiaf 4 cyfarfod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac o leiaf 4 cyfarfod wedi’u cynllunio drwy gydol oes y prosiect), gan sicrhau bod prosiectau wedi’u seilio ar sylfeini cadarn o ddysgu ac ymgysylltu ar y cyd. Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am gynigion clir, wedi’u cynllunio’n dda, sy’n dangos cydweithrediad cadarn, gwerth am arian, a’r potensial i sicrhau effaith ystyrlon – nid yn unig ar gyfer y ffermydd sy’n cymryd rhan, ond hefyd ar gyfer y diwydiant ehangach. Gellir defnyddio’r cyllid i gynorthwyo gydag ystod o weithgareddau sy’n hanfodol er mwyn cyflawni arbrofion llwyddiannus ar y fferm. Mae hyn yn cynnwys mynediad at arbenigedd megis ymgynghorwyr neu wyddonwyr, llogi offer ar gyfer casglu a dadansoddi data, samplu a chreu adroddiadau technegol, a chyfathrebu canfyddiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu’n ehangach. Mae’r cyfnod ymgeisio nawr ar agor, ac yn dod i ben am hanner nos, nos Lun 3 Awst 2026. Cynhelir gweminar hefyd ar 8 Gorffennaf 2026 (8:15-9:00am) i ddarparu arweiniad ac i helpu darpar ymgeiswyr wneud y gorau o’r cyfle, gyda chyfranogwyr yn gallu cofrestru ymlaen llaw ar wefan Cyswllt Ffermio. Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan arweinydd y grŵp trafod ar ran ei aelodau, gyda chytundeb llawn ar draws y grŵp, a dylai’r cais gynnwys manylion pob aelod. Mae’n rhaid i bob ffermwr sy’n cymryd rhan fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) er mwyn i ni allu ystyried y cais. I grwpiau ffermwyr sy’n chwilio am gyfle i arloesi, cydweithio a sbarduno newid ystyrlon ar y fferm, mae’r cyfle diweddaraf hwn yn cynnig llwybr ymarferol i droi syniadau’n realiti – a sicrhau canlyniadau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i giât y fferm. Am ragor o fanylion ac i wneud cais, ewch i wefan Cyswllt Ffermio. |
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |















