25.5 C
Llanelli
Tuesday, July 14, 2026
Home Aberystwyth University Coed ar gyfer dinasoedd poethach: gall dull newydd gryfhau cyfraniad cymunedau wrth...

Coed ar gyfer dinasoedd poethach: gall dull newydd gryfhau cyfraniad cymunedau wrth gyrraedd targedau

0
82
Tree lined avenue

Gallai ymdrechion i blannu mwy o goed mewn dinasoedd ym Mhrydain gael hwb diolch i offeryn newydd i gynllunwyr a grwpiau cymunedol, a gyhoeddwyd gan grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr.

Bu trigolion, llunwyr polisi a swyddogion coed yng Nghaerdydd, Milton Keynes, Caeredin, Efrog a Camden yn gweithio gydag academyddion i ddatblygu cyngor newydd i dyfu coed mewn ffordd sy’n fuddiol i bobl a natur.

Mae coed mewn ardaloedd trefol yn cael eu cydnabod fwyfwy fel rhai sy’n bwysig wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella bioamrywiaeth, a chefnogi iechyd a llesiant. Maent hefyd yn helpu dinasoedd i addasu i dymheredd cynyddol drwy ddarparu cysgod a lleihau amlygiad i wres eithafol.

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol darged i gynyddu plannu coed i 30,000 hectar y flwyddyn fel rhan o ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Nod yr offeryn newydd rhad ac am ddim, Tree Value Visions, yw cefnogi cynghorau a chymunedau i feddwl am ddyfodol coed mewn trefi a dinasoedd mewn ffordd fwy cynhwysol. Mae hefyd yn cynnwys cwrs hyfforddi ar-lein am ddim gan y Brifysgol Agored.

Drwy ddarparu ateb profedig sy’n barod i’w ddefnyddio, gall awdurdodau lleol sydd â chyfyngiadau ariannol wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer cyfranogiad cymunedol.

Drwy nodi camau gweithredu blaenoriaethol sy’n diwallu nifer o anghenion, mae’r offeryn yn annog awdurdodau lleol i integreiddio pwysigrwydd ehangach coed ym mywydau bob dydd pobl ar draws gwahanol feysydd polisi, megis tai, trafnidiaeth a gwydnwch hinsawdd.

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ‘npj Urban Sustainability’, yn awgrymu bod penderfyniadau gwario a chynllunio yn aml yn canolbwyntio ar fuddion mesuradwy megis storio carbon neu’r effaith weledol, ond yn rhoi llai o sylw i gysylltiadau dyfnach sydd gan bobl â’r byd naturiol.

Mae’r offeryn newydd Tree Value Visions yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy ddefnyddio pedair gweledigaeth ar gyfer y dyfodol o dirweddau coed trefol. Mae’r rhain yn edrych ar wahanol ffyrdd o feddwl am goed mewn dinasoedd: fel agwedd sy’n diffinio lle, fel set o adnoddau, fel rhan o systemau ecolegol ac fel rhan o gymuned a rennir rhwng pobl a choed.

Dywedodd yr Athro Jasper Kenter, Arweinydd y Prosiect, Cymrawd Ymchwil mewn Economeg Ecolegol Ymgynghorol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth:

“Nid systemau amgylcheddol yn unig yw tirweddau coed trefol, maen nhw’n lleoedd lle mae pobl yn byw eu bywydau, yn creu atgofion ac yn meithrin perthnasoedd. Maen nhw’n llunio sut mae cymunedau’n profi eu cymdogaethau, o deithio a hamdden bob dydd i gysylltiadau hirdymor â lle a natur.

“Mae ein hofferyn newydd yn helpu i gynnwys y profiadau hynny mewn penderfyniadau, ochr yn ochr ag ystyriaethau amgylcheddol ac economaidd. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi trafodaethau mwy cynhwysol am ddyfodol coed trefol ac i annog cymunedau a llunwyr polisi i feddwl am sut rydyn ni’n byw o natur, ynddi, gyda hi, ac yn rhan ohoni mewn dinasoedd.”

Mae grwpiau cynrychioliadol o drigolion mewn sawl dinas yn y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Caerdydd, Milton Keynes, Caeredin, Efrog a Camden, wedi helpu i ddatblygu a phrofi’r offeryn i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu posibl ar gyfer gwella eu tirweddau coed lleol.

Mae’r gwaith yn seiliedig ar Asesiad Gwerthoedd IPBES, fframwaith rhyngwladol sy’n tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn gwerthfawrogi natur. Roedd y gwaith yn seiliedig ar gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Efrog, Y Brifysgol Agored, Forest Research,

Athrofa Amgylcheddol Stockholm, ac Ecologos Research, gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol, Bwrdeistref Camden yn Llundain, Cyngor Dinas Caeredin ac awduron rhyngwladol o Brifysgol Talaith Washington a Phrifysgol Oregon.

Fe’i hariannwyd gan Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Comisiwn Coedwigaeth drwy Raglen Dyfodol Tirweddau Coed.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.